Mae Llywodraeth Cymru wedi elwa’n fawr ar gynnal cynadleddau dyddiol i’r wasg, yn ôl sylwebydd gwleidyddol.

Bob wythnos ers dechrau’r cyfnod clo mae gweinidogion Cymru a’u prif swyddogion meddygol wedi bod yn annerch y genedl ac yn ein diweddaru am statws yr haint.

Roedd y cynadleddau’n cael eu darlledu yn fyw ar y teledu ac ar y we, yn cael eu gwylio gan ddegau o filoedd, a daeth rhai o brif gyhoeddiadau’r Llywodraeth trwy’r sesiynau yma.