Mae Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol yn edrych ymlaen at “binacl” yr Eisteddfod AmGen…

Sut mae Steddfod AmGen 2020 yn siapio?

Yr hyn sy’n hyfryd am AmGen yw bod modd i bawb gael dos o Eisteddfod eleni er gwaetha’r cyfyngiadau. Mae yna dros 1,000 o ddigwyddiadau yn ystod wythnos Eisteddfod arferol, ac fe fydd dros 1,000 wedi bod yn rhan o AmGen – ond gwasgarwyd hwy ar hyd y 12 wythnos eleni, gyda’r pinacl yr wythnos nesaf.