Mae’r cogydd patisserie Richard Holt wedi creu enw iddo’i hun yn Ynys Môn a thu hwnt gyda’i gacennau anhygoel ers iddo ddechrau rhedeg Melin Llynon yn Llanddeusant flwyddyn yn ôl. Ar ôl iddo orfod cau drysau’r felin oherwydd y coronafeirws, mae wedi bod yn brysur yn ffilmio cyfres newydd i S4C a dechrau prosiect i adfer melin ddŵr gyfagos…