Mae Aelod Seneddol Delyn wedi dod dan y lach yn sgil adroddiadau ei fod wedi ymddwyn amhriodol tuag at staff.

Mae BBC Cymru yn adrodd bod Rob Roberts, 40, wedi gwahodd merch 21 oed i “chwarae ambwyti” gyda fe – gweithiwr profiad gwaith oedd hi.

Hefyd, mae’n debyg ei fod wedi gofyn i ddyn sy’n gweithio yn Nhŷ’r Cyffredin i fynd ar ddêt ag ef.

Fe wnaeth Rob Roberts wahanu o’i wraig yn ddiweddar, a dod mas yn hoyw.