Does dim gwasanaeth newyddion “cenedlaethol” yng Nghymru ac mae hynny’n “syfrdanol”, yn ôl unigolyn sydd am fynd i’r afael â hynny.

Huw Marshall yw Arweinydd Prosiect ‘New Media Wales’, ac mae yntau’n gobeithio creu gwasanaeth newyddion dyddiol i Gymru gyfan.

Mae’n gobeithio lansio hwn ym mis Medi gyda phedwar newyddiadurwr, mae’n rhagweld bydd yna fersiwn ar-lein a phrint.