Mae’n rhaid i fi gyfaddef bod y pandemig wedi bod, ac yn dal i fod, yn strygl i fi – fel i lawer iawn o bobol eraill.

Felly alla’ i ond rhyfeddu at bobl sydd yn llwyddo i godi o bydew’r pandemig i weithio dros eraill.

Ac mae darllen am ymdrechion dyn cant oed o Loegr yn codi arian i ymladd y feirws a’i effeithiau wedi bod yn un o’r rhyfeddodau hynny  – ac wedi peri peth cywilydd hefyd, petawn i’n onest.