Gyda’r dydd mae Kirsty Williams yn wynebu cwestiynau caled gan undebau, athrawon, y Wasg, ac Aelodau’r Senedd… ond gyda’r nos mae’n wynebu ei beirniaid llymaf oll – ei merched ei hun!
Cafodd ei hethol yn Aelod o’r Senedd yn 1999, mae wedi bod yn Weinidog Addysg ers 2016, a hi yw’r Democrat Rhyddfrydol amlycaf yng Nghymru.
Dros y misoedd diwethaf mae wedi bod yn llywio polisi addysg y genedl dan gysgod y coronafeirws, ac wedi gorfod gwneud sawl penderfyniad anodd.
Ochr yn ochr â hyn mae wedi bod yn jyglo’i dyletswyddau yn fam i dair merch, ac wedi bod yn rhoi gwersi cartref i’w merch ieuengaf, sydd ym mlwyddyn naw.
Mae’r merched yn 18, 16, ac 14 oed, ac oni bai am yr argyfwng byddai’r ddwy hynaf wedi sefyll arholiadau mawr eleni (Lefel A a TGAU).
Bu yn “heriol” taro’r balans, meddai Kirsty Williams, rhwng ei gwaith yn weinidog ac yn fam, ac mae’n dweud bod y dysgu cartref yn aml yn digwydd gyda’r nos.
Ar ben hynny, hyd yn oed yng nghwmni ei phlant, does dim hoe o wleidyddiaeth.
“Mae gan y ferch hyna’ ddiddordeb mawr mewn gwleidyddiaeth,” meddai. “A’r ferch ganol hefyd.
“Mae yna sylwebaeth fywiog adref am fy mhenderfyniadau i, am benderfyniadau Llywodraeth Cymru, ac am benderfyniadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Mae fy merch ganol yn angerddol tros wleidyddiaeth America. Felly dyw e’ ddim yn politics free zone. Mae gan y merched safbwyntiau cryf.
“Ond does gan fy ngŵr a’r ferch ieuengaf ddim diddordeb o gwbl. Felly maen nhw’n anobeithio!”
Mae’n deall yn iawn bod y cyfnod clo wedi bod yn anodd i bobol ifanc, ac mae’n disgrifio sut mae ei merched wedi cel eu heffeithio.
Fydd yr haf ddim cweit mor felys iddyn nhw dan y cyfnod clo, meddai, ac mae canslo digwyddiadau’r Ffermwyr Ifanc wedi bod yn ergyd.
Mae’r gweinidog yn briod â ffermwr, ac mae’r teulu yn byw ar fferm ger Aberhonddu.
Mae ganddyn nhw 1,000 o ŵyn, a thua 200 o wartheg, ac mae’r fferm wedi bod yn nheulu’r gŵr ers 1911.
Un o Fynea, ar gyrion Llanelli, yw Kirsty Williams, ac nid yn dod o gefndir amaethyddol.
Does prin ganddi’r amser i helpu ar y fferm, meddai, ond mae’n hoff iawn o fyw yng nghefn gwlad ac o gael natur ar ei stepen drws.
Tra bod bywyd y fferm yn hamddenol ar y cyfan, mae’n egluro bod ei gwaith yn Weinidog Addysg Llywodraeth Cymru yn “ddi-stop”.
“Mae llawer o bwysau,” meddai. “Rydym wedi gwneud cyfres o benderfyniadau anodd. Weithiau mae’n rhaid i chi wneud y rheiny yn gyflym.
“Dros y diwrnodau diwetha’ rydym wedi ymweld ag ysgolion, wedi cynnal gweminarau gydag undebau gwahanol, cyfarfodydd â’r Prif Weinidog…
“Mae gen i gyfarfod y prynhawn yma gyda Gweinidog Addysg Iwerddon. Mae’n ddi-stop. Mae pob dydd yn brysur iawn iawn.
“A dyw e’ ddim yn arafu… rydych chi jest yn symud ymlaen at y penderfyniad mawr nesa’.”
Mi enillodd Kirsty Williams sedd Brycheiniog a Maesyfed yn etholiad cyntaf y Cynulliad yn 1999, pan oedd hi’n 28 oed.
Oherwydd ei bod cymaint fengach na gweddill y gwleidyddion yno, a gyda’r grŵp pop Spice Girls yn boblogaidd yn y 1990au, fe gafodd Kirsty Williams ei bedyddio yn ‘Assembly Spice’.
Hi yw un o’r ASau prin sydd wedi cynrychioli’r un sedd, yn ddi-dor, ers dechrau datganoli, ac felly mae hi ymhlith ‘cnwd 1999’.
Elin Jones, David Melding, Carwyn Jones, Jane Hutt, Lynne Neagle, Ann Jones, Dafydd Elis-Thomas, a John Griffiths, yw’r aelodau eraill sydd yno ers y cychwyn.
“Dw i bron â bod, yn llythrennol, wedi treulio hanner fy oes yn y Cynulliad,” meddai Kirsty Williams sy’n 49 oed. “Mae’n ddiddorol myfyrio ar hynny o bryd i’w gilydd.
“Dw i’n browd iawn o fod yn aelod o gnwd ’99. Mae bod yn rhan o daith datganoli, a datblygiad y Cynulliad dros y blynyddoedd, wedi bod yn fraint.
“Mae rhai o fy ffrindiau gorau yn y byd gwleidyddol yn aelodau o gnwd ’99. Dw i wir yn gwerthfawrogi’r cyfeillgarwch rhyngaf i â’r criw yma.
“Ar hyn o bryd mae’n anodd codi’r llygaid o’r ddesg am fod yr argyfwng yma yn ddybryd.
“A fydda’ i’n dal yma yn fy saith degau [fel Dafydd Êl]? Duw! Dw i ddim yn siŵr os oes gen i’r stamina! Dw i ddim yn siŵr. Byddai hynny’n golygu dros 20 mlynedd arall. Duw! Mae yn anodd amgyffred hynny!”
Yn ei hamser rhydd mae Kirsty Williams yn hoff o ddarllen, ac ynn tueddu darllen dau lyfr ochr yn ochr â’i gilydd – un ffuglen ac un ffeithiol.
Frederick Douglass: Prophet of Freedom a The Mothers yw ei deuawd diweddaraf.
“Dw i’n ddarllenwr brwd,” meddai. “Byddech chi’n dychmygu fy mod i’n treulio digon o amser yn darllen papurau.
“Ond, a dweud y gwir, dw i fel fy nhad. Roedd yntau’n llyfrgellydd, ac roedd fy mam yn ddarllenwr brwd hefyd.
“A dw i’n boen i bobol eraill! Dw i wastad yn ceisio gorfodi llyfrau dw i wedi eu darllen ar fy nghyd-weithwyr. Dw i’n gyrru pobol yn y gwaith yn wallgo’. ‘Mae’n rhaid i chi ddarllen hwn’. Dw i’n dweud hynna o hyd.”