Ar y cyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar, eglurodd y cerddor a’r perfformiwr Sage Todz na fydd yn perfformio ym Maes B yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd.

Eglurodd fod ei set yn cynnwys gormod o Saesneg i allu ateb gofyniad yr Eisteddfod bod holl berfformiadau a gweithgareddau’r Ŵyl yn digwydd drwy gyfrwng y Gymraeg.