Wel, dyma ni bant eto!

Mae rhai yn cymryd yr hen iaith yma’n llawer rhy ddifrifol. Gan gynnwys yr Eisteddfod.

Wedi’r cyfan, beth yw’r ots os defnyddir ychydig o Saesneg yn y Brifwyl? Yn bersonol, byddwn wrth fy modd yn gweld perfformiad o Oklahoma! yn Theatr y Maes.

Braf, felly, oedd gweld un o Weinidogion Llywodraeth Cymru’n camu i’r bwlch, gan gefnogi’r galw am weld mwy o ddefnydd o Saesneg yn y sioe!