Rydw i eisiau iddi symud.

Mae’n ddiwrnod trymaidd, a’r awyr yr un lliw â dŵr budr. Rydw i wedi dod i weld y cerflun ar fy mhen fy hun, wrth gwrs – siwrnai car rhwng un apwyntiad a’r nesaf, rhywle i stopio i fwyta fy mrechdan ac yfed y dŵr potel sydd wedi cynhesu’n baned yng ngwres y car.

Ro’n i eisiau gweld Sarah.