Mae’r byd yn aflafar eto.
Mae’r byd yn aflafar, ac mae dy ben di’n llawn o’r twrw, hyd yn oed mewn tawelwch. Lleisiau a lleisiau a lleisiau yn clegar; rhai yn areithio hen eiriau hyll; rhai yn rhannu eu gwirioneddau’n dawel ddigalon, a thithau’n gwybod yn iawn na fyddi di byth yn gallu anghofio’i straeon nhw. Mae dy ben a dy galon a dy bopeth di’n gwegian dan bwysau’r ddaear a’r holl angharedigrwydd y mae hi’n dioddef.
Rwyt ti’n meddwl dy fod ti’n rhy fach i wneud gwahaniaeth.