Mae gwleidyddion Plaid Cymru wedi ymateb i benodiad Nia Jeffreys, arweinydd nesaf tebygol Cyngor Gwynedd.
Cafodd ei hethol yn arweinydd newydd Grŵp Cynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd mewn cyfarfod yng Nghaernarfon neithiwr (nos Fercher, Tachwedd 13), ac mae’n debygol y bydd hi’n cael ei hethol yn arweinydd y Cyngor Sir ar Ragfyr 5.
Hi yw arweinydd benywaidd cyntaf grŵp y Blaid yng Ngwynedd, ac mae’n Gynghorydd Sir dros ward Dwyrain Porthmadog ers 2017.
Ymhlith y rhai sydd wedi ei chroesawu i’r rôl mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, a Siân Gwenllian, yr Aelod o’r Senedd dros Arfon.
‘Deall Gwynedd a’i chymunedau’
“Mae gan Nia gyfoeth o brofiad fel cyn-ddirprwy arweinydd y Cyngor yn ystod cyfnod heriol i lywodraeth leol,” meddai Liz Saville Roberts.
“O bandemig Covid i’r argyfwng ariannu sy’n wynebu cynghorau, mae Nia wedi bod yn llais cadarn.
“Mae wedi ei gwreiddio yn ei chymuned leol ym Mhorthmadog, cymuned sydd, mewn sawl ffordd, yn feicrocosm o Wynedd.
“Mae llawer o’r heriau sy’n wynebu pobol sy’n byw yno yn cael eu hwynebu gan gymunedau eraill ar draws Gwynedd boed hynny’r argyfwng tai, diffyg cyfleoedd economaidd, neu ddiffyg isadeiledd gwledig.
“Mae hi’n deall Gwynedd a’i chymunedau, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda hi i wella bywydau pobol ar draws fy etholaeth.”
‘Radical ac effeithiol’
“Hoffwn longyfarch Nia ar ei hetholiad hanesyddol fel arweinydd benywaidd cyntaf grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd, ar ôl iddi fod y ddynes gyntaf i gynrychioli ei ward fel cynghorydd hefyd,” meddai Siân Gwenllian.
“Yn ystod cyfnod Nia yn ddirprwy arweinydd, mae Cyngor Gwynedd wedi’i ganmol yn gyson am fod yn gyngor radical ac effeithiol, ac rwy’n hyderus y bydd cynghorau o bob rhan o’r Deyrnas Unedig yn edrych tuag at Wynedd am ysbrydoliaeth yn y blynyddoedd i ddod.
“Dwi’n gwybod fod gan Nia’r profiad a’r sgiliau i arwain y Cyngor yn ystod cyfnod hynod heriol.
“Edrychaf ymlaen at gydweithio â hi ar ran pobol Arfon a Gwynedd.”
‘Braint o’r mwyaf’
“Mae hi’n fraint o’r mwyaf cael arwain grŵp y Blaid yng Ngwynedd,” meddai’r Cynghorydd Nia Jeffreys.
“Dw i’n hynod ddiolchgar i aelodau Grŵp Plaid Cymru Gwynedd am yr ymddiriedaeth maen nhw wedi ei ddangos ynof fi.
“Dw i’n edrych ymlaen at gydweithio â nhw a bwrw ati gyda’r gwaith dros drigolion Gwynedd.
“Hoffwn gymryd y cyfle i dalu gwrogaeth i’r cyn arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, am ei waith i lywodraeth leol dros y blynyddoedd diwethaf.
“Dw i’n edrych ymlaen at gael bwrw ati yn y rôl newydd gydag awch a brwdfrydedd.”