A hithau’n Wythnos Hinsawdd Cymru yr wythnos hon, mae dau fusnes yng Nghaerdydd wedi dod at ei gilydd er mwyn gwella trafnidiaeth gynaliadwy yn y brifddinas.

Gyda chymorth darparwyr cerbydau trydan FleetEV, bydd becws Ground, sydd â sawl siop yng Nghaerdydd a’r Fro, yn darparu bwydydd wedi’u pobi mewn faniau trydan o hyn ymlaen.

Mae rheolwyr y becws yn pwysleisio’r dyletswydd sydd ar fusnesau bach i wneud penderfyniadau cynaliadwy pan fo’r gallu ganddyn nhw.

Mae’r busnes FleetEV, gafodd ei sefydlu yn 2021, yn rhoi cymorth i fusnesau a chyrff sector cyhoeddus sydd am ddechrau defnyddio dulliau mwy cynaliadwy er mwyn cludo staff a nwyddau.

“Mae’n tîm ni wedi bod yn hynod brysur yr wythnos hon yn helpu busnesau ac unigolion i droi tuag at gerbydau trydannol,” meddai’r Prif Weithredwr Jarred Morris.

“Mae wir yn wych gweld cynifer o bobol wedi cyffroi gymaint am greu dyfodol gwyrddach, glannach a mwy cynaliadwy i bawb.”

Cerbydau trydan

Mae Cyngor Caerdydd eisoes wedi cyhoeddi cynlluniau i gefnogi defnydd cerbydau trydannol yn y brifddinas.

Nod Wythnos Hinsawdd Cymru ydy dod ag arloeswyr, rhanddeiliaid busnesau, a grwpiau cymunedol at ei gilydd er mwyn cydweithio i greu Cymru wyrddach a mwy cynaliadwy, a chynnig datrysiadau i effeithiau’r argyfwng hinsawdd yma yng Nghymru.

Mae digwyddiadau ledled Cymru’n cyd-fynd â chynhadledd COP29 y Cenhedloedd Unedig yn Baku, Azerbaijan, lle mae mawrion y byd wedi bod yn cyfarfod i geisio mynd i’r afael â’r argyfwng ar lefel ryngwladol.

Un o brif themâu cynhadledd Baku ydy cydweithrediad rhwng y sector preifat a’r sector cyhoeddus, sy’n draddodiadol yn fwy blaengar yn amgylcheddol.

Yr un pwyslais sydd gan Wythnos Hinsawdd Cymru eleni, wrth i Lywodraeth Cymru alw am gymorth busnesau yng Nghymru i wynebu heriau’r argyfwng.

Cynhadledd hinsawdd i randdeiliaid polisi hinsawdd

Mewn cynhadledd rithiol yr wythnos hon, fe fu rhanddeiliaid hinsawdd y sector cyhoeddus, rhwydweithiau diwydiant a busnes, a sefydliadau trydydd sector yn cyfarfod er mwyn cydlynu eu cynlluniau amgylcheddol.

Fe fu trafodaethau am sut i gyflawni polisïau, rhaglenni a mentrau hinsawdd mewn cyfres o sesiynau panel dan y thema “addasu i’n hinsawdd newidiol”.

Yn ogystal, mae digwyddiadau ymylol wedi’u cynnal ledled Cymru drwy gydol yr wythnos, gan roi cyfle i gyfranogwyr ddysgu mwy am strategaethau busnesau a sefydliadau Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn annog busnesau bychain i gynnal eu digwyddiadau eu hunain, neu i liniaru polisïau yr wythnos hon.