Mae’r ymateb i dân dinistriol yn y Fenni nos Sul (Tachwedd 10) wedi cael sylw yn y Senedd.
Fe ofynnodd Peredur Owen Griffiths, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru, am gymorth i’r busnesau gafodd eu heffeithio gan y tân.
Ymhlith y busnesau hyn roedd The Magic Cottage, y siop elusennol fwyaf yng Nghymru.
Wrth ymateb, dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd Economi Cymru, y byddai modd i ddioddefwyr dderbyn cyngor, a chymorth ariannol o bosib, gan gorff arbennigol Busnes Cymru.
Talu teyrnged
Does dim anafiadau wedi’u hadrodd eto, ond roedd galw ar 100 o ddiffoddwyr tân i ddiffodd y fflamau.
Mae’r heddlu bellach yn ymchwilio i achos y digwyddiad.
“Hoffwn dalu teyrnged i ymateb y gwasanaeth brys a sicrhaodd ddiogelwch trigolion lleol a brwydro’n ddewr i gynnwys y tân gymaint â phosibl,” meddai Peredur Owen Griffiths yn y Senedd.
“Unwaith y bydd ymchwiliad i’r achos wedi’i gwblhau, bydd sylw’n troi at ailadeiladu bywoliaethau’r rhai sydd wedi’u heffeithio.”
Y siop elusennol fwyaf yng Nghymru
Dechreuodd y tân y tu ôl i siop elusen The Magic Cottage ar heol hanesyddol Stryd Frogmore y Fenni.
Mae’r siop a sawl adeilad cyfagos bellach wedi’u dinistrio.
Roedd y siop yn cefnogi plant a phobol ifanc dan 25 oed sydd ag anghenion ychwanegol a chyflyrau cronig.
Mae gan Peredur Owen Griffiths bryderon am ddyfodol yr elusen wedi’r tân.
“Maen nhw’n gweithio ar draws pedair sir – Sir Fynwy, Blaenau Gwent, Torfaen a Phowys,” meddai.
“Maen nhw wedi dweud wrth y cyfryngau eu bod wedi colli popeth yn y tân, ond fel tyst i haelioni’r cyhoedd, mae’r Magic Cottage wedi cael ei foddi â mwy o stoc ers y tân.
“Maen nhw rŵan yn chwilio am eiddo newydd i storio’r stoc yma.
“Fel syniad o raddfa, roedd y siop yn y Fenni tua 10,000 troedfedd sgwâr o ofod manwerthu, sef y siop elusennol fwyaf yng Nghymru mae’n debyg.”
Cymorth i “sicrhau bod y tarfu… mor isel â phosibl”
Gofynnodd yr Aelod o’r Senedd am yr “arbenigedd, arweiniad a chymorth ariannol y gall y Llywodraeth ei ddarparu i bawb sydd wedi’u heffeithio gan y tân yn y Fenni”.
Yn ogystal, roedd am wybod sut y byddai’r Llywodraeth yn “sicrhau bod y tarfu yn cael ei gadw mor isel â phosibl a bod bywydau, busnesau a chanol y dref, a gwaith yr elusen bwysig iawn hon, yn gallu mynd yn ôl ar y trywydd iawn cyn gynted â phosibl”.
Yn ei hymateb, dywedodd Rebecca Evans y byddai Busnes Cymru yn cynnig y cymorth angenrheidiol i’r rheiny gafodd eu heffeithio.
Mae’r corff, gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru er mwyn rhoi cyngor i fusnesau Cymru, hefyd yn darparu gwybodaeth am sut i fynd ati i adfer wedi argyfwng.