Mae aelod seneddol o’r wrthblaid yn Seland Newydd wedi tarfu ar fusnes y senedd drwy ddechrau perfformio’r Haka.

Daeth y weithred fel protest yn erbyn yr hyn sy’n cael ei ystyried yn ymgais i ailddehongli’r cytundeb â’r Māori arweiniodd at sefydlu Seland Newydd fel gwlad.

Dechreuodd Hana-Rawhiti Maipi-Clarke berfformio’r ddawns ryfel ar ôl iddi gael ei holi a yw ei phlaid yn cefnogi’r bil, oedd yn wynebu pleidlais gyntaf heddiw (dydd Iau, Tachwedd 14).

Ar yr un pryd, mae hīkoi – neu brotest heddychlon ar ffurf gorymdaith – yn ymlwybro tua’r brifddinas Wellington dros gyfnod o ddeng niwrnod.

Yn ôl Act, y blaid wleidyddol gyflwynodd y bil, mae angen diffiniad cyfreithiol o egwyddorion Cytundeb Waitangi 1840, sydd wedi dod yn rhan greiddiol o gyfraith y wlad dros y blynyddoedd er mwyn ceisio gwneud yn iawn am y ffordd y cafodd y Māori eu trin dros y blynyddoedd.

Yn ôl plaid Act, mae’r mater wedi hollti’r wlad ar sail hil, a byddai’r bil yn galluogi Cytundeb Waitangi i gael ei ddehongli’n decach drwy’r senedd yn hytrach na’r llysoedd.

Mae’r arweinydd David Seymour yn dweud bod gwrthwynebwyr yn ceisio “codi” ofn a rhaniadau, ond mae’r gwrthwynebwyr hynny’n dadlau y byddai’r bil yn hollti’r wlad ac yn arwain at ddiffyg cefnogaeth i hawliau’r Māori maes o law.

Cafodd darlleniad cynta’r bil ei basio gyda chefnogaeth pob plaid sy’n rhan o’r glymblaid sy’n llywodraethu.

Ond cafodd Hana-Rawhiti Maipi-Clarke ei diarddel yn sgil ei gweithred.

Dydy hi ddim yn debygol y bydd y bil yn cael ei basio ar yr ail ddarlleniad, gan fod partneriaid Act yn y glymblaid yn dweud nad ydyn nhw’n barod i’w gefnogi.

Y bil

O dan y ddeddfwriaeth sy’n cael ei chynnig, byddai’r egwyddorion canlynol yn dod yn gyfraith:

  • hawl y llywodraeth i lywodraethu, a hawl y senedd i lunio cyfreithiau
  • bod y Goron yn parchu hawliau’r Māori
  • bod pawb yn gyfartal yn nhermau’r gyfraith, a bod gan bawb yr hawl i gael eu gwarchod gan y gyfraith

Yn ôl Act, gan nad yw’r egwyddorion wedi cael eu diffinio o’r blaen, fe fu modd eu dehongli nhw ar hap ac er mwyn cyfiawnhau gweithredu yn erbyn y Māori, gan gynnwys cyflwyno cwotâu ethnig mewn swyddi cyhoeddus.

Ond mae Christopher Luxon, Prif Weinidog Seland Newydd, yn un o’r rhai sy’n dadlau y byddai’r bil yn achosi rhaniadau.

Mae Tribiwnlys Waitangi, gafodd ei sefydlu yn 1975, yn dadlau bod y bil wedi hepgor unrhyw fath o ymgynghoriad â’r Māori tros eu hawliau ac wedi camddehongli Cytundeb Waitangi.

Deddfu yn erbyn y Māori

Dyma’r darn diweddaraf o ddeddfwriaeth sy’n gweithredu yn erbyn y Māori, yn ôl ymgyrchwyr.

Yn eu plith mae cau Awdurdod Iechyd y Māori, sy’n golygu cefnu ar addewid y llywodraeth flaenorol i greu cydraddoldeb ym maes iechyd a gofal ac sy’n gosod Saesneg uwchlaw iaith y Māori fel prif iaith gyfathrebu’r maes iechyd a gofal.

Mae ymchwil yn dangos bod y Māori, sy’n cyfrif am oddeutu 18% o boblogaeth Seland Newydd, dan anfatais pan ddaw i iechyd, incwm ac addysg, ac ar gyfartaledd maen nhw’n byw saith mlynedd yn llai na gweddill y boblogaeth.

 

Te reo Māori a’r Gymraeg

Matthew Evans

“Rwy’n gwbl sicr bod gwersi pwrpasol ac effeithiol i’w dysgu gan ein cyfeillion Māori ochr arall y byd”

Seland Newydd yn dathlu Diwrnod Cenedlaethol Waitangi

Cafodd Cytundeb Waitangi ei lofnodi ar Chwefror 6, 1840 ond mae pryderon am ariannu prosiectau brodorol erbyn hyn