Iestyn Tyne yw Bardd Tref cyntaf Caenarfon.
Mae’r teitl yn un sy’n destun balchder iddo, meddai’r bardd, fu’n byw yn y dref am oddeutu chwe blynedd.
Er ei fod wedi symud i Waunfawr, pentref dafliad carreg o’r dref, yn ddiweddar, mae’n dal i weithio o’i stiwdio yng Nghaernarfon.
Mae’r dref yn dal i fod yn ysbrydoliaeth gyson, meddai, gan ychwanegu ei fod yn edrych ymlaen at fwrw at y gwaith.
Mae Iestyn Tyne yn un o sylfaenwyr gwasg Y Stamp, ac mae wedi cyhoeddi tair cyfrol o’i farddoniaeth ei hun a dwy bamffled.
Gan ei bod hi’n rôl newydd, does dim cynsail ar gyfer y gwaith eto, a bydd cyfle yn y cyfnod cynnar i weld sut fath o waith fydd y bardd yn dymuno’i wneud.
Bydd y Bardd Tref yn derbyn £1,000 y flwyddyn, a bydd Iestyn Tyne yn y rôl tan ddiwedd tymor presennol y Cyngor Tref, sef tua blwyddyn a hanner arall.
“Mae o’n grêt; roedd o’n rhywbeth reit annisgwyl bod y Cyngor wedi galw am Fardd Tref,” meddai wrth golwg360.
“Mae o’n neis, ar ôl gweld bod o wedi bod yn digwydd yn Aberystwyth ers ychydig o flynyddoedd, bod hwnna’n amlwg yn gweithio a bod Caernarfon yn sbïo i’r cyfeiriad yna am ysbrydoliaeth.
“Dw i’n meddwl fod o’n benderfyniad da gan y Cyngor; dw i’n falch iawn o gael y penodiad, a dw i’n edrych ymlaen at weld be’ ddaw, achos mae hi’n rôl newydd sbon; does yna ddim cynsail, wedyn fydda i’n ffeindio’n ffordd ar dudalen wag.”
Caernarfon yn ysbrydoli
Dywed Iestyn Tyne fod y Cyngor Tref am fod yn “eithaf penagored” o ran y cerddi fydd gofyn i’r Bardd Tref eu cyfansoddi, ond ei bod hi’n debyg y bydd galwadau neu awgrymiadau o bryd i’w gilydd.
“Fel arall, maen nhw wedi dweud i weld beth sy’n ysbrydoli – cerddi i wneud efo Caernarfon, y pethau dw i’n eu gweld, a’r bobol dw i’n eu cyfarfod,” meddai.
“Dw i’n gweithio o stiwdio yng Nghaernarfon, ac yn byw yn yr ardal.
“Mae lot o fy ngwaith i am Gaernarfon beth bynnag; bydd harnesu’r rôl yna i fewn i fy ngwaith i’n beth naturiol, dw i’n meddwl.
“Mae’r lle’n fy ysbrydoli i; mae o’n lle sydd yn ysbrydoli.
“Mae yna lot o sgrifennwyr yma, lot o sgrifennwyr wedi bod yma dros y blynyddoedd… canrifoedd.
“Rydyn ni mewn lle ysbrydoledig, rhwng Eryri a’r môr, a ti’n tynnu ar lot o bethau felly.”
Mwy na cherddi ar bapur
Gobaith Iestyn Tyne yw gweld y cerddi’n tyfu tu hwnt i rywbeth ar bapur, ac y bydd cyfleoedd i gyfuno celf gyhoeddus efo barddoniaeth neu berfformiadau, neu drwy gydweithio â mudiadau a grwpiau lleol.
“Mae o’n rhywbeth dw i wedi bod yn gweithio lot arno fo yn fy ngwaith fy hun dros y blynyddoedd diwethaf beth bynnag – mynd â ’marddoniaeth i gyfryngau gwahanol, cydweithio efo artist sain, er enghraifft, neu feddwl sut mae fy ngherddi i’n gweithio o fewn gofod yn hytrach nag o fewn cyfrol,” meddai.
“Maen nhw’n stwff dw i’n meddwl amdanyn nhw beth bynnag, ond mae rôl gyhoeddus fel yma, sy’n galw am fath gwahanol o gerddi, yn cynnig posibiliadau o ran mynd â nhw i lefydd newydd, annisgwyl hefyd fel bod cerddi’n rywbeth gweledol a bod pobol yn gweld beth ydy eu swyddogaeth nhw o fewn rhywbeth cymunedol.
“Yn enwedig mewn cyfnod lle, efallai, mae’r celfyddydau dan warchae, mae o’n bwysicach byth ein bod ni’n profi’u bod nhw’n gallu cyfathrebu efo pobol mewn ffyrdd gwahanol.”
‘Datganiad o ffydd’
Bu ychydig o gwyno yn y Cambrian News y llynedd fod Cyngor Tref Aberystwyth yn gwario £1,000 er mwyn cyflogi Bardd Tref, arweiniodd at gynghorwyr yn atgyfnerthu eu cefnogaeth at y cynllun.
“Mae o’n ddatganiad o ffydd, bron, gan Gyngor Tref [Caernarfon] eu bod nhw’n mynd i fuddsoddi mewn rôl fel yma,” meddai Iestyn Tyne, sy’n dod o Ben Llŷn yn wreiddiol.
“Dw i wedi bod yn hanner aros am y peth.
“Dw i’n gwybod fod yna rai pobol wedi ymateb yn anffafriol pan benodwyd Eurig [Salisbury] yn Fardd y Dref yn Aberystwyth, a gwrthbrofi hynny ydy’r nod, a dw i’n falch bod y Cyngor Tref yn bwrw eu ffydd yn rhywun i sgrifennu cerddi a bod hwnna yn rhywbeth sydd dal yn werthfawr ac yn cyflawni swyddogaeth o fewn cymdeithas.
“Mae o’n gyffrous; mae o’n deitl sy’n rhoi eithaf lot o falchder i mi.
“Dydw i ddim yn enedigol o’r dref chwaith, felly mae yna ryw sêl fendith yn y peth o ran hynny.”