Mae Geraint Evans wedi cael ei benodi’n Brif Weithredwr S4C.
Ar hyn o bryd, mae’n Brif Swyddog Cynnwys Dros Dro’r sianel, ac yn arwain y tîm comisiynu.
Yn ystod y flwyddyn, bu hefyd yn gyd-Brif Weithredwr Dros Dro ar S4C am gyfnod o chwe mis.
Ymunodd ag S4C yn 2019 fel Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes, a bu’n gyfrifol am ddatblygu gwasanaeth newyddion digidol S4C, cyn dod yn Gyfarwyddwr Strategaeth Cynnwys a Chyhoeddi.
Bydd yn dechrau yn swydd y Prif Weithredwr ym mis Ionawr, gyda Sioned Wiliam yn parhau’n Brif Weithredwr Dros Dro tan hynny.
Cyn ymuno ag S4C, bu’n newyddiadurwr gydag ITV Cymru am 25 mlynedd, yn ohebydd ar gyfres materion cyfoes Y Byd ar Bedwar, ac yna’n olygydd y gyfres ac yn Bennaeth Rhaglenni Cymraeg ITV.
“Mae wir yn fraint i gael y cyfle i arwain sianel yr wyf wedi’i gwylio a chynhyrchu cynnwys iddi ar hyd fy ngyrfa,” meddai Geraint Evans.
“Mae gan S4C rôl allweddol i’w chwarae i alluogi pobol i fyw eu bywydau drwy’r Gymraeg, i ddenu siaradwyr newydd, ac i gynnal y Gymraeg fel iaith fyw a pherthnasol.
“Wrth i’n harferion gwylio newid, mae’n hanfodol bod S4C yn newid – ac yn denu, yn ysbrydoli ac yn diddanu ein cynulleidfaoedd, ar ba bynnag blatfform maen nhw’n dewis gwylio.
“Rwy’n edrych ymlaen at yr her, gan wybod bod timau talentog a chreadigol yma yn S4C, yn y sector gynhyrchu ac ymhlith ein rhanddeiliaid allanol, sy’n rhannu’r un angerdd a gweledigaeth o gael sianel sy’n gwasanaethu Cymru gyfan.”
‘Penodiad cyffrous’
Dywed Guto Bebb, cadeirydd dros dro S4C, fod penderfyniad y Bwrdd yn unfrydol wrth benodi Geraint Evans, a’u bod nhw i gyd yn falch o’r “penodiad cyffrous”.
“Mae Geraint yn angerddol dros gynhyrchu cynnwys Cymraeg a’r angen i feithrin y sector greadigol sy’n bartner allweddol i S4C,” meddai.
“Daw â chyfoeth o brofiad a dealltwriaeth am y diwydiant yma yng Nghymru a thu hwnt i’w swydd newydd.
“Fel y cyfarwyddwr sydd wedi bod yn arwain ar ddatblygiad digidol y sianel, mae ganddo weledigaeth glir o’r llwybr sydd angen i S4C i’w gymryd os am sicrhau dyfodol llewyrchus.
“Mae’n arweinydd naturiol all uno staff a rhanddeiliaid wrth i’r sianel gychwyn pennod newydd.”
Ychwanega eu bod nhw’n ddiolchgar i Sioned Wiliam am ei gwaith yn Brif Weithredwr dros dro, a’i bod hi wedi bod yn bleser cydweithio gyda hi.