Yn dilyn Eisteddfod Ffermwyr Ifanc lwyddiannus iawn y penwythnos diwethaf, mae Dai Baker, cadeirydd Eisteddfod Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru eleni, yn pwysleisio pwysigrwydd y digwyddiad yng nghalendr y mudiad fel “ffenest siop”.
Ysgol Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin oedd lleoliad yr eisteddfod eleni (dydd Sadwrn, Tachwedd 2), gyda’r deuddeg ffederasiwn sirol yn cymryd rhan yn yr hwyl.
Yn ôl Dai Baker, sy’n cydnabod yr holl waith caled sy’n cael ei wneud bob blwyddyn, mae pobol bob amser yn barod i fynd “y filltir ychwanegol” er mwyn sicrhau ei llwyddiant.
“Mi aeth hi’n grêt – mae’n llwyth o waith wrth gwrs, gan mai gwirfoddolwyr yw’r pwyllgor, ac mae day to day jobs gyda ni,” meddai wrth golwg360.
“Rydyn ni’n ffodus iawn o staff y swyddfa sy’n helpu ma’s; ond iddyn nhw hefyd, mae [yr Eisteddfod] y tu hwnt i’w cyfrifoldebau nhw.
“Er mai efallai fy enw i oedd wrth y drws, mae cyn-gadeirydd Ffermwyr Ifanc Sir Gâr Siôn Evans, y cadeirydd presennol Caryl Jones, a Sioned Beynon wedi bod yn hollol amazing ac wedi gwneud cymaint, os nad mwy na fi i drefnu.
“Rydyn ni’n lwcus iawn fel sir fod yna gymaint o bobol sydd yn barod i gael yn sownd i mewn iddi, ond hefyd sy’n deall beth maen nhw’n ei wneud.”
Dod o hyd i leoliad
Yn debyg i drefniadau’r Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd, mae lleoliad Eisteddfod Clybiau Ffermwyr Ifanc hefyd yn cylchdroi yn flynyddol o’r de i’r gogledd.
A hithau’n meddu ar y cyfleusterau priodol, neuadd Ysgol Bro Myrddin oedd llwyfan yr holl gyffro eleni.
“Roedd pob un o’r deuddeg sir yn cystadlu ar y llwyfan ddydd Sadwrn, gan gynnwys y siroedd, efallai, sydd ddim yn ymgysylltu bob blwyddyn gyda’r Eisteddfod,” meddai Dai Baker wedyn.
“Capasiti yw’r prif beth [wrth drefnu], felly mae angen neuadd sy’n eistedd o leiaf 700 i 800 erbyn bod y cit darlledu i gyd i mewn.
“Roedd yn gorfod mynd i Abertawe yn 2016, ond roedd y pwyllgor a finnau yn rili penderfynol eleni ein bod ni’n mynd i wneud popeth roedden ni’n gallu i gynnal [yr eisteddfod] yn y sir.
“Mae yna rêl infrastructure ynglŷn â’r lleoliad, ac mae Ysgol Bro Myrddin wedi bod yn hollol amazing.”
Darlledu’n fyw i’r genedl
Cafodd yr eisteddfod ei darlledu’n fyw ar S4C, sy’n “rili pwysig” i gyhoeddusrwydd Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, yn ôl Dai Baker.
Elfen bwysig arall o’r Eisteddfod yw dod â chymunedau cefn gwlad ynghyd.
“Mae [yr eisteddfod] yn ffenest siop i’r mudiad; mae’n dangos pwysigrwydd y mudiad yng nghefn gwlad,” meddai.
“Mae pobol yn byw yn bell oddi wrth eu ffrindiau; dyw e ddim fel yng nghanol tref neu mewn canol dinas.
“Mae’r unigrwydd a bod yn bell o dy ffrindiau yn exacerbating yng nghefn gwlad, felly mae’n bwysig fod cymaint o bobol ag sy’n bosib yn ymwybodol o’r mudiad a’r clybiau sy’n bodoli yn yr ardaloedd hyn er mwyn i bobol ifanc gallu cael y cyfle i ymgynnull tu fa’s i oriau ysgol.
“Felly mae darlledu [yr eisteddfod] yn rili codi’r statws ac yn agor y drws i bobol, efallai, sydd ddim o deuluoedd ble mae’r Ffermwyr Ifanc wedi bod yn rhan fawr o’r teulu.
“Fi yw’r genhedlaeth gyntaf o fy nheulu i sy’n gwneud unrhywbeth â’r mudiad, achos bod y teulu yn dod o Gaerdydd a’r Cymoedd.”
Ychwanega fod darlledu’r Eisteddfod yn fyw yn dangos cryfder Mudiad Ffermwyr Ifanc ar lefel genedlaethol, ac yn ffordd o ddenu aelodau newydd.
Fel un sy’n mwynhau perfformio, yr eisteddfod yw’r “digwyddiad pwysicaf” i Dai Baker yng nghalendr Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru.
“Yn sicr, mae’n un o brif ddigwyddiadau’r mudiad, ochr yn ochr â’r Ffair Aeaf a’r Sioe Frenhinol,” meddai.
“Yn y flwyddyn newydd nawr, bydd pantomeims y Ffermwyr Ifanc yn dechrau – focus point arall.
“Mae’r Field Day, yn yr ochr amaethyddol, hefyd ym mis Mawrth; dyna’r pum prif ddigwyddiad.
“Ond yr eisteddfod yw’r un lle mae posib gwerthu gwaith y mudiad yn genedlaethol.”
Llwyddiant y Gadair
Mared Fflur Jones (ddefnyddiodd y ffugenw Mali) o Glwb Ffermwyr Ifanc Rhos-y-bol, Ffederasiwn Ynys Môn oedd enillydd y Gadair eleni.
Athrawes Gymraeg yn Ysgol Botwnnog ydy hi, a chreodd hi gryn argraff ar y beirniad Aneirin Karadog.
“Mae’r grymuster yng nghanu Mali yn taro rhywun erbyn i ni gyrraedd diwedd y gerdd olaf, ac nid drwy gyfrwng llinellau cofiadwy ar hyd y daith, er bod yma ddweud celfydd,” meddai yn ei feirniadaeth.
“Magu gwreiddiau mewn person rydyn ni’n ei garu sydd yma, yn hytrach na magu gwreiddiau mewn lle, cawn fod caru rhywun yn gallu golygu magu gwreiddiau rhwng dau berson, a hynny wedi i ddadwreiddio ddigwydd yng nghwrs y gerdd.
“Mae’r diweddglo’n fendigedig ac yn gwneud yr hyn a gwna cerdd dda, chwedl Dic Jones, mae alaw pan ddistawo yn mynnu canu yn y co’.”
Hanes Derwen Myrddin oedd ysbrydoliaeth y Gadair eleni gyda’r elfen bren wedi’i chwblhau gan Siôn Evans, a’r gwaith metal gan Hefin Jones.
Y gerdd fuddugol
Hau
“Be wnawn ni? Cicio’r bar?”
Dro deddfol i’r rhai a dynnwyd
Gan y llanw i’r Coleg ger y Lli.
Yr un hen filltir, yr un olygfa
fel ’tae’n newydd eto, yn gwahodd,
yn dy gwmni.
Codi’n sodlau i goroni’r ymdrech
A’r cam cyfarwydd yn llamu
i dir yr anwybod.
Sylwais am y tro cynta’,
fel sêr y nos,
fod dy lygaid dithau’n gwenu.
Tyfu?
Dy syniad di oedd symud,
Bwrw gwraidd i’r blagur dyfu.
Finnau’n derbyn yn ddiamod,
Yna sobri wrth sylwi –
Fod hynny’n golygu
dadwreiddio.
Pacio myd i focsys del,
Troi cefn ar y pethau bach
na fedrwn hel.
Lliw’r wawr ar ben y foel,
Blas yr heli ar yr awel,
Lamp fach y stryd
Yn dangos ei bod yn saff i gerdded.
Gadael i drigo’n dy gymuned diarth.
Ond ta waeth…
Dydi gwahanol, ddim wastad
yn golygu gwaeth.
Medi
Tendio’r ardd oeddwn i,
Pan gynhigiasit dy law i
Gasglu’r border bach.
Dwi’n dy wylio’n cerdded draw,
Yn dilyn llwybr dy wên tuag ataf
Ac mae’n fy nharo,
Mai dyma beth yw bod.
Fe fu, ac fe fydd stormydd
Ar yr hen fynyddoedd hyn.
Ond o fy ‘mlaen mae’r lle a garaf,
Pob milltir ar flaen fy mysedd.
Ynot ti mae bro fy mebyd,
Ynot ti mae myd i gyd.
Y Goron
Enillydd y goron eleni oedd Elain Iorwerth (Ffugenw: Rhinog) o Glwb Ffermwyr Ifanc Prysor ac Eden, Ffederasiwn Meirionnydd.
Mae hi wedi bod yn aelod o’r mudiad Ffermwyr Ifanc er pan oedd hi’n unarddeg oed, ac mae hi bellach yn ei hail flwyddyn yn astudio Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol ym Mhrifysgol Bangor.
Tudur Dylan Jones farnodd y wobr gyntaf i waith Elain Iorwerth, gan ganmol ei mynegiant, oedd yn “gyfoes a bywiog”.
“Mae’r fonolog gyntaf am ferch yn trafod stress,” meddai yn ei feirniadaeth.
“Er bod hyn yn bwnc difrifol, mae ysgafnder y dweud yn fodd o drosglwyddo’r neges yn rymusach.
“Mae’r awdur yn ei gweld hi’n haws ysgrifennu na siarad, ‘achos dydy darn o bapur ddim yn gorfod eich dallt chi’.
“Mae’r ail fonolog yn dangos gallu’r awdur i sylw ar fân bethau mewn bywyd, fel pobol sy’n gadael paned ar ei hanner, a’i gadael wrth y sinc i fagu llwydni, a heb ei chlirio wedyn.
“Mae hyd yn oed Merched y Wawr yn ei chael hi – ‘hotspot gossipio ydy Merched y Wawr,’ meddai.
“Mae’r fonolog olaf am Dylwyth Teg yn wreiddiol o annisgwyl. Mae’r frawddeg agoriadol yn denu sylw: ‘Welish i’r Tylwyth Teg neithiwr. Oedd o’n massive!’
“Mae’r monologau hyn yn ddarllenadwy ac yn codi i dir uchel.”
Cafodd y Goron ei chreu eleni gan Lowri Elen Jones o Glwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Tywi.
Mae hi’n Gof Artist sy’n hen law ar gynhyrchu gwaith unigryw o’r Efail yn Sir Gâr.
Defnyddiodd ddeunyddiau wedi’u hailgylchu er mwyn creu’r Goron eleni.
Detholiad o’r rhyddiaith ddaeth i’r brig
Llanw
“Sut wyt ti?” – cwestiwn digon syml. Ateb anodd. Ryw gwestiwn ma’ bawb yn ei redeg drosto rywsut. Yr ateb arferol wrth gwrs o gwmpas fa’ma fysa’ “duw iawn ‘sdi, chdi?”. Y ffordd hawdd o’i ateb o mae’n siŵr. Ddim yn gorfod deud un ffordd neu’r llall. Wrth gwrs mae’n syml i’w ateb nes mae o’n cael ei ofyn yr ail neu’r drydedd gwaith, bob tro hefo mwy o bwyslais ar y ‘ti’. Wedyn, os ydach chi fel fi, mi ddechreuwch chi flasu diferion bach hallt yn taro’ch tafod. Mi wneith bob dim sy’n bod, popeth bach, ddim bwys faint o effaith mae o’n ‘i gael arna chi, i gyd lifo mewn i’r un darn bach na yn eich pen sy’n cael ei orlifo gan bwysau, neu ‘stress’ fel ma’ pawb yn ddeud dyddiau yma.
“O ‘ngenath i ti’n ‘stressed’?” neu “paid â phoeni, ‘mond ‘chydig yn ‘stressed’ wyt ti”.
Bob tro fyddai rywun yn deud hynna – “‘mond ‘stress’ ydi o”, fyddai’n teimlo fel rhoi peltan go lew iddyn nhw, dim ond gwylltineb y foment. Allai mo’i ddiodda’ fo pan fydd bobl yn awgrymu mai peth bach ydi ‘stress’, achos, go iawn, mae popeth bach yn y pen draw yn troi’n un peth mawr, dio’m bwys faint drïwch chi ei reoli fo. Mor fawr na allwch chi gofio lle ddechreuodd y broblem yn y lle cynta’. Mor fawr eich bod chi’n teimlo fod y byd ar ben, a phwy ddiawl sy’n mynd i allu’ch helpu chi allan o’r twll yma eto? Ag yn y pen draw pan fyddwch chi allan o’r twll o ryw fath, ‘da chi ‘back to square one’ – y pethau bach ‘ma i gyd yn ail-lenwi’ch meddwl chi eto, a chitha’n meddwl y tro yma, “dwi ‘di dysgu i ddelio hefo ‘stress’ rŵan, un peth ar y tro”. Ffordd eich ymennydd chi o’ch twyllo chi ydi hynna achos yn anffodus, ddim fel’na mae o’n gweithio, waeth pa mor syml ydach chi’n feddwl ydi o.