Mae’r nofel Llyfr Glas Nebo, neu’r cyfieithiad ohono, wedi cyrraedd yr entrychion unwaith eto – ychydig dros flwyddyn ar ôl ennill un o wobrau mawr Carnegie.
Mae nofel Manon Steffan Ros, sy’n digwydd mewn byd ôl-apocalyptaidd ger pentref Nebo yn Arfon, wedi cyrraedd rhestr fer gwobr yr Entente Littéraire Prize (Prix de l’Entente Littéraire), gwobr newydd sbon ar y cyd rhwng Ffrainc a Phrydain.
Cafodd y wobr ei chyhoeddi ym mis Medi 2023 gan y Frenhines Camilla a Madame Brigitte Macron yn ystod ymweliad y Brenin a’r Frenhines â Ffrainc.
Mae gwobr yr Entente Littéraire (Prix de l’Entente Littéraire) wedi’i hysbrydoli gan yr Entente Cordiale, y cytundeb gafodd ei greu yn 1904 rhwng llywodraethau Prydain a Ffrainc er mwyn gwella’r berthynas rhwng y ddwy wlad.
Bwriad y wobr yw ceisio a dathlu pleser darllen a phrofiadau llenyddol rhwng Ffrainc a Phrydain.
Ar y panel beirniadu roedd dau awdur llyfrau i’r ifanc o Ffrainc, Marie-Aude Murail a Timothée de Fombelle, a’r awduron Patrice Lawrence a Joseph Coelho o Brydain.
Llywydd y beirniad oedd yr awdur Joanne Harris, sy’n siarad Ffrangeg a Saesneg.
Y llyfrau sydd ar y rhestr fer
Dyma’r holl lyfrau sydd ar y rhestr fer:
- Le Livre Bleu De Nebo, Manon Steffan Ros, wedi’i gyfieithu gan Lise Garond (Actes Sud Jeunesse)
- Thieves, Lucie Bryon (Flying Eye Books)
- Men Don’t Cry, Faïza Guène, wedi’i gyfieithu gan Sarah Ardizzone (Cassava Republic Press)
- Jefferson, Jean-Claude Mourlevat, wedi’i gyfieithu gan Ros Schwartz (Anderson Press)
- Par Le Feu (After The Fire), Will Hill, wedi’i gyfieithu gan Anne Guitton (Casterman)
- Les Etincelles Invisibles (A Kind of Spark), Elle McNicoll, wedi’i gyfieithu gan Dominique Kugler (Ecole des loisirs).
Bydd y prif enillydd yn cael ei gyhoeddi mewn achlysur mawr yn Llundain, dan faner y Royal Literary Society, ddechrau mis Rhagfyr.
Taith bell o Nebo
Enillodd Llyfr Glas Nebo y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.
Cafodd ei gosod wedyn ar restr fer Gwobr Tir na n-Og 2019, cyn iddi gipio Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2019.
Ym mis Mehefin 2023, daeth y newyddion ei bod hi wedi ennill medal YOTO Carnegie, y tro cyntaf i gyfieithiad ennill y wobr honno.
Cafodd ei haddasu yn ddrama lwyfan gan gwmni’r Frân Wen mewn cydweithrediad â Galeri, ac ar gyfer y radio.