Dydy adroddiad newydd gan yr Ymddiriedolaeth Lythrennedd Genedlaethol heb fedru dod i gasgliad am batrymau darllen plant Cymru, am fod grwpiau samplu eu harolwg yn rhy fach.

Mae’r adroddiad yn awgrymu mai dim ond 35% o blant y Deyrnas Unedig rhwng pump a deunaw oed sy’n dweud eu bod nhw wedi mwynhau darllen yn eu hamser hamdden yn 2024.

Dyma’r ffigwr isaf sydd wedi’i gofnodi gan yr Ymddiriedolaeth ers iddyn nhw ddechrau’r arolwg blynyddol yn 2005.

Ond yn sgil cyhoeddiad diweddar sy’n awgrymu dirywiad yng nghyrhaeddiad plant Cymru mewn profion darllen, gallai’r ffaith nad oes gwybodaeth benodol am Gymru yn adroddiad yr Ymddiriedolaeth fod yn rhwystredig i’r rheiny sy’n ymgyrchu o blaid llythrennedd.

‘Grwpiau samplu ddim yn ddigon mawr’

Er bod 76,131 o atebion wedi’u cynnwys yn eu harolwg eleni, mae’r Ymddiriedolaeth yn honni nad oedd maint y grŵp samplu o Gymru yn ddigon mawr i fedru dod i gasgliadau pendant.

“Er ein bod ni’n casglu data gan blant a phobol ifanc yng Nghymru ynglŷn â’u tueddiadau darllen, ysgrifennu a siarad, dydy maint y sampl ddim yn ddigon mawr i ni fedru cyhoeddi canlyniadau dibynadwy am Gymru,” meddai’r trefnwyr wrth golwg360.

Mae hyn er gwaetha’r ffaith fod data ar gael yn yr adroddiad sy’n dadansoddi gwahaniaethau rhanbarthol yn Lloegr.

Yn ôl yr adroddiad, plant yn ne-ddwyrain Lloegr oedd leiaf tebygol o ddweud eu bod yn mwynhau darllen yn eu hamser hamdden.

Plant o Lundain a gorllewin canolbarth Lloegr oedd fwyaf tebygol o ddweud eu bod nhw’n mwynhau darllen.

Mae’r arolwg hefyd yn cynnwys casgliadau ar ranbarth gogledd-ddwyrain Lloegr, ardal sydd â phoblogaeth dipyn is na Chymru.

Dirywiad ym mhrofion darllen statudol Cymru

Byddai casglu gwybodaeth am batrymau darllen plant a phobol ifanc Cymru yn hynod ddefnyddiol, fodd bynnag.

Mae hyn o ystyried y dirywiad sydd wedi’i nodi gan Lywodraeth Cymru ym mhatrymau cyrhaeddiad disgyblion yn y profion darllen statudol dros y tair blynedd ddiwethaf.

Yn ôl data gafodd ei gyhoeddi fis Mehefin eleni, roedd cyrhaeddiad cyfartalog disgyblion mewn profion darllen Cymraeg yn 2023 yn werth deuddeg mis o ddysgu yn is na’r ffigurau cyfatebol yn 2021.

Mewn profion darllen Saesneg, roedd cyrhaeddiad cyfartalog disgyblion yn 2023 gwerth pedwar mis o ddysgu’n is nag yn 2021.

Daw hyn yng nghanol pryderon sawl ffynhonnell ryngwladol am effaith hirdymor y cyfnod clo a chyfryngau cymdeithasol ar lefelau llythrennedd plant a phobol ifanc.

Eleni, mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi lansio’u hymgyrch “Dathlu Darllen” er mwyn gwyro’r dirywiad hwn.

Mae’r ymgyrch yn cynnig syniadau ar gyfer gweithgareddau fyddai’n ysgogi disgyblion i fedru mwynhau darllen unwaith yn rhagor.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb Cyngor Llyfrau Cymru.