Mae gan un o bwyllgorau’r Senedd bryderon am “Len Haearn ddiwylliannol” yn sgil Brexit, sy’n ei gwneud hi’n fwyfwy anodd ac yn anymarferol i artistiaid Cymru deithio i weithio.

Mae Pwyllgor Diwylliant y Senedd wedi clywed bod teithio ar hyd a lled Ewrop wedi dod yn her enfawr i lawer o berfformwyr Cymru oherwydd costau a gwaith papur ychwanegol ers i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae rhwystrau wedi arafu symudiad rhydd, ac mae llawer o artistiaid yn dewis peidio â theithio,

Mae’r pwyllgor wedi clywed bod uchelgeisiau perfformwyr i weithio yn Ewrop wedi lleihau yn sgil mwy o weinyddiaeth a chostau, ac mae’r adroddiad sydd wedi’i gyhoeddi heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 6) yn amlinellu llawer o’r problemau mae artistiaid Cymru yn eu hwynebu.

Symud pobol

Erbyn hyn, mae gweithwyr creadigol y Deyrnas Unedig sy’n teithio yn yr Undeb Ewropeaidd yn wynebu llu o drefniadau fisa a thrwydded gwaith yn 27 gwlad yr Undeb Ewropeaidd.

Mae cyfyngiadau’n golygu mai dim ond am hyn a hyn o ddyddiau y caiff artistiaid weithio yng ngwledydd yr Undeb Ewropeaidd.

Esboniodd llawer o dystion fod hyn wedi arwain at golli gwaith ac incwm, llai o hyfywedd o ran cytundebau, a theithiau ychwanegol i’r Deyrnas Unedig ac yn ôl rhwng perfformiadau, i adnewyddu fisa neu aros o fewn terfyn 90 diwrnod ardal Schengen o fewn cyfnod o 180 o ddiwrnodau.

Syrcas

“… Yn ein contractau nawr… mae rhaid i ni gynnwys cymal nad ydyn nhw’n cael mynd ar wyliau i’r Undeb Ewropeaidd yn y mis yn union cyn contract – pe baen nhw’n gwneud hynny, byddai’n torri i mewn i’w 90 diwrnod a fydden nhw ddim yn gallu gweithio yn yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer ein contract,” meddai NoFit State Circus wrth roi tystiolaeth i’r pwyllgor.

“Doeddwn i erioed wedi dychmygu yn fy myw y byddai gen i gontract gydag artist yn gwneud cais o’r fath, sy’n cael effaith i’r graddau hynny ar fywyd personol rhywun y tu allan i weithio i ni.”

Symud nwyddau

Mae artistiaid yn wynebu mwy o feichiau gweinyddol ac ariannol wrth symud nwyddau ar draws ffiniau.

Mae gofynion tollau ar gyfer offerynnau ac offer, megis datganiadau allforio, tollau mewnforio a threthi, yn ogystal â chyfyngiadau cludo, i gyd yn heriau gafodd eu codi gyda’r pwyllgor.

Mae’r angen am basbort nwyddau (‘Carnets’) wedi cael effaith sylweddol ar gludo offer.

Mae tystion yn disgrifio’r broses fel un “frawychus”, “hynod ddryslyd” ac fel “hunllef o ran gwaith papur”.

Mae rhai wedi talu arbenigwyr i ymdrin â’r broses ar eu rhan nhw.

Mae gwiriadau ar y ffin yn cael eu cymhwyso’n anghyson, gan gynnwys ar groesfan Caergybi-Dulyn, sy’n ei gwneud hi’n anodd i weithwyr creadigol wybod pa reolau mae angen iddyn nhw eu dilyn.

Theatr Byd Bychan

Dywedodd Theatr Byd Bychan a NoFit State y canlynol wrth y Pwyllgor:

“… Yr enghraifft […] o’r stamp anghywir yn y lle anghywir ar y ffurflen, mae hynny’n digwydd i bawb drwy’r amser ac, o ganlyniad, mae offer yn cael eu cadw ar ffiniau, mae tryciau’n cael eu cadw ar ffiniau, dyw’r swyddogion ar lawr gwlad ddim yn gwybod beth yw’r rheolau ac maen nhw’n gwneud camgymeriadau,” meddai Theatr Byd Bychan a NoFit State Circus wrth y pwyllgor.

Mae Theatr Byd Bychan wedi cymharu effaith yr heriau â Llen Haearn ddiwylliannol.

Ychwanega BECTU, undeb y diwydiannau creadigol, fod diwydiant oedd unwaith yn ffynnu bellach wedi dechrau cael trafferthion.

Disgrifiodd tystion sut mae’r rhwystrau newydd hyn wedi arwain at golli cyfleoedd, lleihau gweithgarwch, cynyddu costau a cholli incwm.

Gweithredu

Mae adroddiad Pwyllgor Diwylliant y Senedd yn galw am gamau ar frys gan Lywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn eu gallu i fynd i’r afael â’r materion hyn, drwy ddefnyddio’r holl ysgogiadau sydd ar gael.

Mae’r Pwyllgor hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

  • nodi pa arweiniad a chymorth maen nhw’n ei ddarparu i weithwyr creadigol ar weithio ar draws ffiniau ar ôl Brexit
  • darparu asesiad o effaith Brexit ar y sector diwylliant yng Nghymru
  • nodi pa gamau sydd wedi’u cymryd i liniaru effaith ariannol Brexit ar y sector yn sgil colli cyllid yr Undeb Ewropeaidd

“Mae’n amlwg bod perfformwyr ac artistiaid Cymru yn dioddef oherwydd Brexit,” meddai Delyth Jewell, cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd.

“Rydyn ni wedi clywed tystiolaeth frawychus o sut mae mwy o gostau, gwaith papur newydd diddiwedd a chyfyngiadau teithio yn mygu diwydiant creadigol hanfodol Cymru.

“Yn gyflym, mae teithio wedi dod yn anhyfyw i ormod o berfformwyr.

“Mae rhwystrau Brexit wedi arafu symudiad rhydd creadigrwydd, syniadau, ac mae llawer o artistiaid yn dewis peidio byth â theithio.

“Mae Cymru yn genedl sy’n llawn angerdd, creadigrwydd a thalent, ond pa bris ydyn ni’n disgwyl i’n hartistiaid ei dalu am ddilyn eu hangerdd?

“Mae rhaid i’n cymdeithas ddod o hyd i ffyrdd gwell o adlewyrchu gwerth y celfyddydau i’n heconomi a’n ffordd o fyw.

“Mae rhaid caniatáu i’n hartistiaid adrodd stori Cymru i’r byd.

“Fel pwyllgor, mae’r neges ddi-flewyn-ar-dafod rydyn ni wedi’i chlywed yn aros gyda ni.

“Mae llawer yn y fantol ac mae ein hartistiaid bob wythnos yn dewis peidio â dilyn mentrau newydd a pheidio â gwneud cysylltiadau sy’n newid bywydau oherwydd y rhwystrau mae’n rhaid iddyn nhw eu hwynebu.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig gymryd camau, a heddiw rydyn ni wedi nodi nifer o argymhellion i fynd i’r afael â’r heriau enfawr mae ein diwydiant creadigol yn eu hwynebu.

“Mae rhaid mynd i’r afael â hyn ar frys cyn ei bod hi’n rhy hwyr, gan golli cenhedlaeth o dalent am byth.”