Mae pryderon am ddyfodol addysg chweched dosbarth yng Ngheredigion wedi cael eu lleddfu rywfaint, yn dilyn cyfarfod Cabinet y Cyngor heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 5).

Roedd perygl y gallai chweched dosbarth chwe ysgol yn Aberaeron, Llanbed, Aberteifi, Llandysul ac Aberystwyth gau, wedi i Gyngor Sir Ceredigion ddweud nad yw cyllid Llywodraeth Cymru’n ddigon i’w cadw fel ag y maen nhw.

Un o’r opsiynau posib fyddai creu Canolfan Ragoriaeth ar gyfer addysg ôl-16, a chau’r chweched dosbarth yn Ysgol Gyfun Aberaeron, Ysgol Bro Pedr, Ysgol Penglais, Ysgol Penweddig, Ysgol Bro Teifi ac Ysgol Uwchradd Aberteifi.

Fodd bynnag, mae cynghorwyr wedi cymeradwyo cynnig i ddechrau ar y broses o fabwysiadu opsiwn fydd yn golygu cadw darpariaeth chweched dosbarth ar y chwe safle.

Serch hynny, maen nhw hefyd wedi cymeradwyo cynnig i gynnal ymchwiliad pellach er mwyn ystyried mwy ar y posibilrwydd o sefydlu Canolfan Ragoriaeth ar un neu fwy safle.

Gwahanol opsiynau

Flwyddyn yn ôl, fe wnaeth Cabinet Cyngor Ceredigion drefnu astudiaeth i ystyried dichonoldeb ar gyfer pedwar opsiwn gwahanol.

Cafodd y pedwar eu torri i lawr i ddau opsiwn, sef:

Opsiwn 2: Adeiladu ar y sefyllfa bresennol yng Ngheredigion, a byddai darpariaeth ôl-16 yn parhau ar safleoedd Penweddig, Penglais, Aberteifi, Bro Pedr, Dyffryn Teifi ac Aberaeron. Mae’r opsiwn hefyd yn golygu creu Bwrdd Strategol i reoli cyllideb addysg ôl-16 yr awdurdod, a sicrhau trefniadau addas ar gyfer cyd-gynllunio’r cwricwlwm rhwng y chwe ysgol.

Opsiwn 4: Cau’r ddarpariaeth ôl-16 bresennol, a sefydlu Canolfan Ragoriaeth ar un neu fwy o safleoedd.

Cafodd John Hayes ei benodi i gynnal astudiaeth ddichonoldeb i’r ddau opsiwn, a dywedodd wrth gynghorwyr y byddai Opsiwn 2 yn cynnig darpariaeth gryfach i’r Gymraeg.

Dywedodd hefyd y byddai’n amhosib meddwl am agor Canolfan Ragoriaeth ar un safle’n unig.

‘Cynnal safonau uchel’

Yn ôl y Cynghorydd Wyn Thomas, yr Aelod Cabinet dros Ysgolion a Dysgu Gydol Oes, prif nod yr adolygiad oedd darparu dadansoddiad ac arfarniad o’r sefyllfa bresennol, a nodi opsiynau posib.

“Mae’n hynod o bwysig, nid yn unig ein bod yn cynnal y safonau uchel o addysg sy’n cael eu darparu i ddisgyblion ôl-16 yng Ngheredigion, ond ffynnu i’w gwella, a darparu cyfleoedd i ddisgyblion gael mynediad at ystod ehangach o bynciau, gan gynnwys pynciau galwedigaethol,” meddai.

Ychwanega’r adroddiad gan Wyn Thomas y dylid ystyried y ddau opsiwn yng nghyd-destun cefn gwlad ac amddifadedd gwledig, dyfodol yr iaith Gymraeg, materion amgylcheddol, costau a chyllid, a lleisiau rhanddeiliad.

Gostyngiad yn nifer y disgyblion sy’n penderfynu aros i fynd i’r chweched dosbarth, a chostau cynyddol rhedeg cyrsiau ôl-16, sy’n gyfrifol am benderfyniad Cabinet Cyngor Ceredigion i ailystyried y ddarpariaeth.

Pryder disgyblion Chweched Dosbarth Ceredigion am eu hiechyd meddwl

Lleucu Jenkins

“Bydden i’n credu taw’r peth gwaethaf all ddigwydd yw ein bod ni’n cyfuno pob Chweched mewn i un ganolfan,” medd un am y newidiadau posib

Ystyried argymhelliad i gau pob chweched dosbarth yng Ngheredigion

Cadi Dafydd

Mae un o bwyllgorau’r Cyngor wedi argymell rhoi ystyriaeth fanwl i fanteision ac anfanteision dau opsiwn i addasu neu ddatblygu’r ddarpariaeth ôl-16