A hithau’n Noson Tân Gwyllt heno (nos Fawrth, Tachwedd 5), mae gwasanaethau tân ac achub Cymru wedi gofyn i’r cyhoedd ddangos parch at ei gilydd ac i ofalu am eu diogelwch eu hunain.

Mae digwyddiadau’n cael eu cynnal ledled Cymru heno i ddathlu’r ŵyl, sydd ymhlith un o’r digwyddiadau blynyddol prysuraf i wasanaethau tân.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd wedi gofyn i unrhywun sy’n mynychu digwyddiadau i ddangos parch at y canllawiau, y gwasanaethau brys, ac at gymdogion.

Ymhlith yr argymhellion mae’r gwasanaeth yn eu rhestru mae “defnyddio’r adran frys ar gyfer trawma difrifol, anafiadau neu afiechydon”, ac i “ffonio 999 dim ond pan fo argyfyngau difrifol neu ddigwyddiad sy’n bygwth bywyd”.

Bydd trin man losgiadau gartref gyda dŵr llugoer neu ddŵr claear, yn ogystal â phoenladdwyr, yn lleihau’r pwysau ar y gwasanaethau brys, medden nhw.

Mae’r gwasanaeth hefyd yn gofyn bod y cyhoedd yn ymwybodol o effaith bosib tân gwyllt ar bobol oedrannus, plant ac anifeiliaid.

Coelcerthi

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a’r Gorllewin wedi pwysleisio’r niwed y gall coelcerthi ei achosi os nad ydyn nhw’n cael eu cadw dan reolaeth.

Gall coelcerthi gynnwys eitemau sy’n wenwynig neu eitemau ffrwydrol fyddai’n medru effeithio ar wylwyr.

Yn ogystal, fe allen nhw ledaenu ac achosi difrod i’r amgylchedd.

Bydd staff lleihau tanau bwriadol a diogelwch cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a’r Gorllewin yn gweithio gyda’r heddlu er mwyn sicrhau diogelwch coelcerthi.

Yn y gogledd, fe bwysleisiodd Paul Kay, Pennaeth Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd, fod “nifer y digwyddiadau rydyn ni’n eu mynychu ac sy’n ymwneud â thân gwyllt a choelcerthi wedi gostwng yn aruthrol gan fod y cyhoedd wedi gwrando ar ein hapêl i fynychu arddangosfeydd sydd wedi eu trefnu yn hytrach na chynnau eu tân gwyllt eu hunain gartref”.

Tân Gwyllt

Mae pryderon, hefyd, am ddiogelwch wrth ddefnyddio tân gwyllt.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd yn gofyn i’r rheiny sy’n mynychu digwyddiadau yn yr ardal honno ddilyn y Côd Tân Gwyllt.

Dyma ydy cyngor y Côd ar gyfer rheiny sy’n mynychu digwyddiadau:

  • Cynlluniwch eich arddangosfa tân gwyllt i’w wneud yn ddiogel a phleserus, a sicrhewch ei fod yn gorffen cyn 11pm.
  • Prynwch dân gwyllt sy’n cario’r marc CE, cadwch nhw mewn blwch caeedig a ddefnyddiwch un ar y tro.
  • Darllenwch a dilynwch y cyfarwyddiadau ar bob tân gwyllt gan ddefnyddio tortsh os oes angen.
  • Taniwch y tân gwyllt o hyd braich gyda thapr a sefwch ymhell yn ôl.
  • Cadwch fflamau noeth, gan gynnwys sigaréts, i ffwrdd o dân gwyllt.
  • Peidiwch byth â dychwelyd at dân gwyllt wedi iddo gael ei gynnau.
  • Peidiwch â rhoi tân gwyllt yn eich poced a pheidiwch byth â’u taflu.
  • Cyfeiriwch unrhyw rocedi tân gwyllt ymhell oddi wrth bobol sy’n gwylio.
  • Peidiwch byth â defnyddio paraffîn na phetrol ar goelcerth.
  • Gwnewch yn siŵr fod y tân wedi ei ddiffodd a bod yr ardal o gwmpas yn cael ei diogelu cyn gadael.

Neges debyg sydd yn y Canolbarth a’r Gorllewin.

“Yn draddodiadol, mae problemau’n digwydd wrth ddefnyddio tân gwyllt, yn enwedig pan fyddant yn cyrraedd y dwylo anghywir,” meddai Scott O’Kell, y Rheolwr Tîm Lleihau Tanau Bwriadol.

“Mae yna bethau syml y gellir eu gwneud i sicrhau bod gwylwyr yn cael eu cadw’n ddianaf, ac i ddiogelu’r amgylchedd cyfagos rhag cael ei ddifrodi yn ystod noson tân gwyllt.

“Gellir lleihau llawer o beryglon drwy fynd i arddangosfa sydd wedi’i threfnu’n swyddogol ar noson tân gwyllt.”

Dyma ydy cyngor gwasanaeth tân y rhanbarth:

  • Cofiwch eu prynu gan adwerthwr ag enw da bob amser, a dilynwch gyfarwyddiadau tân gwyllt unigol.
  • Sicrhewch eich bod yn storio tân gwyllt yn unol â’r cyfarwyddiadau a restrir; dylid storio tân gwyllt yn eu pecyn gwreiddiol mewn lle sych ymhell o ffynonellau gwres neu danio.
  • Cadwch dân gwyllt i ffwrdd oddi wrth blant bob amser.

Does dim cyngor swyddogol wedi’i gyhoeddi gan Wasanaeth Tân ac Achub y De ar hyn o bryd.