Mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr wedi mynegi pryderon am effaith hirdymor cynyddu ffioedd dysgu myfyrwyr prifysgol yng Nghymru, wedi i Lywodraeth Cymru awgrymu bod cynnydd pellach yn bosib.
Daw’r rhybudd hwn yn dilyn cynnydd tebyg gan Lywodraeth San Steffan ar gyfer ffioedd myfyrwyr ym mhrifysgolion Lloegr.
Bydd Pwyllgor Plant, Pobol Ifanc ac Addysg y Senedd yn cyfarfod yfory (dydd Mawrth, Tachwedd 6) am y tro cyntaf ers cyhoeddiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Ffioedd yn cynyddu yn Lloegr
Yn ystod ei chyhoeddiad ddoe (dydd Llun, Tachwedd 4), esboniodd Bridget Phillipson, Ysgrifennydd Addysg Lloegr, y byddai ffioedd dysgu yn Lloegr yn cynyddu i £9,535 ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025/26.
Dyma fydd y cynnydd cyntaf yn Lloegr ers 2017, pan gafodd cap o £9,250 y flwyddyn ei gyflwyno.
Daw hyn yn wyneb ‘argyfwng’ honedig yng nghyllidau prifysgolion yn sgil chwyddiant a gostyngiad yn niferoedd y myfyrwyr rhyngwladol sy’n astudio yng ngwledydd Prydain.
Cynnydd pellach yng Nghymru?
Yng Nghymru, mae cynnydd wedi’i gyflwyno eisoes eleni.
O fis Medi 2025, bydd ffioedd yn cynyddu i £9,250 bob blwyddyn.
Yn ôl BBC Cymru Fyw, mae llefarydd ar ran corff Prifysgolion Cymru yn awgrymu bod cynnydd pellach yng Nghymru yn anochel, oherwydd yr heriau sy’n wynebu’r sector addysg uwch.
Wrth ymateb i’r datganiad hwnnw, dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod “fod prifysgolion Cymru o dan bwysau ariannol sylweddol”, a’u bod nhw’n “ystyried goblygiadau’r penderfyniad [gan Ysgrifennydd Addysg Lloegr] i Gymru”.
Pryderon am “effaith hirdymor” a “chynaliadwyedd”
Yn ôl y llefarydd ar ran Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, mae gan yr Undeb bryderon am “effaith hirdymor” a “chynaliadwyedd” cynnydd arfaethiedig pellach yng Nghymru.
“Ein gofid ni fel Undeb Genedlaethol ydy’r effaith geiff hyn yn hir dymor – ar ddyled myfyrwyr, ar awydd myfyrwyr i fynd i’r brifysgol, ac ar sefydlogrwydd ariannol prifysgolion,” meddai llefarydd.
“Byddai codi’r ffioedd yn ddatrysiad byr-dymor mewn sector sy’n barod yn anghynaliadwy.”
Mae’r Undeb hefyd yn rhybuddio am effaith bosib diffyg cynnydd cyfatebol mewn cymorth a grantiau i fyfyrwyr.
“Mae costau byw’n dal i fod yn her i fyfyrwyr, ac mae eu hamser yn cael ei ledaenu mor brin erbyn hyn rhwng astudio a gweithio, am fod angen i gymaint o fyfyrwyr weithio er mwyn cefnogi’u hunain bellach,” meddai’r llefarydd wedyn.
“Dydy hi ddim yn gyfnod hawdd iawn i fod yn fyfyriwr, ac mae angen i ni weld y gefnogaeth sydd ar gael yn dal i fyny gyda’r newidiadau sy’n digwydd yn gymdeithasol.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Fe fyddwn ni’n cadarnhau’r cap ar ffioedd a’r pecyn cymorth i fyfyrwyr ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 cyn gynted â phosibl,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
Mae gobaith y daw eglurhad pellach fory (dydd Mercher, Tachwedd 6), yn ystod cyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobol Ifanc ac Addysg yn y Senedd.