Bydd cynrychiolydd Cymreig yn cael eu penodi gan Ystad y Goron “i sicrhau bod Cymru’n elwa” ar brosiectau ynni ar y môr.

Y teulu brenhinol sy’n berchen ar Ystad y Goron, sef gwerth £603m o dir yng Nghymru, sy’n cynnwys 65% o wely’r môr o amgylch yr arfordir.

Yn ôl yr amcangyfrifon, bydd Ystad y Goron yn derbyn o leiaf £1m o elw o brosiectau ynni gwynt oddi ar arfordir Cymru yn y blynyddoedd nesaf.

Mae’r arian yn mynd tuag at ariannu’r teulu brenhinol, ond mae Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi cytuno i benodi comisiynydd i gynrychioli buddiannau Cymru.

Ar hyn o bryd, dydy Llywodraeth Cymru ddim yn cael arian o’r elw sy’n cael ei greu ar Ystad y Goron yng Nghymru, er bod Llywodraeth yr Alban yn elwa yno.

Fe fu galwadau i newid hyn gan grwpiau megis YesCymru a Phlaid Cymru.

Heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 5), roedd y Democratiaid Rhyddfrydol wedi cyflwyno gwelliant yn Nhŷ’r Arglwyddi yn galw am ddatganoli Ystad y Goron.

‘Cam arwyddocaol’

Bydd y comisiynydd yn gyfrifol am “ddarparu cyngor am weithredoedd Ystad y Goron yng Nghymru, gan sicrhau bod llais [Cymru] yn cael ei glywed”, yn ôl swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Mae’r newidiadau’n cael eu gwneud fel rhan o welliant gan yr Arglwydd Peter Hain, fu’n Aelod Seneddol Llafur dros Gastell-nedd rhwng 1991 a 2015, i Fil Ystadau’r Goron.

Yn ôl Jo Stevens, Aelod Seneddol Llafur dros Ddwyrain Caerdydd ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, bydd Cymru’n “elwa’n fawr” ar brosiectau gwynt ar y môr.

“A nawr mae gennym ni’r gynrychiolaeth rydyn ni ei hangen i fanteisio ar hynny,” meddai.

“Rwy’n falch o fod wedi cytuno ar y cam arwyddocaol hwn i sicrhau bod Cymru wrth wraidd ein nod i ddod yn archbŵer ynni glân.”

‘Angen rheolaeth lawr’

Cafodd y cynnig gefnogaeth gan Blaid Cymru, Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Wrth ymateb, dywed Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, ei fod yn “gam ymlaen”, ond nad yw’n mynd yn ddigon pell wrth roi pwerau a buddiannau economaidd i Gymru.

“Mae gan yr Alban reolaeth lawn dros Ystad y Goron ers 2017,” meddai Aelod Plaid Cymru o’r Senedd Ynys Môn.

“Pam fod Cymru’n cael ei thrin yn wahanol?”

Dywed Llinos Medi, Aelod Seneddol Plaid Cymru Ynys Môn, fod Ystad y Goron wedi codi dros £100m i gymunedau’r Alban yn 2022-23.

“Dychmygwch yr effaith fyddai hyn yn ei chael yng Nghymru pe bai gennym ni bwerau tebyg…” meddai.

“Byddai rhoi rheolaeth lawn i Gymru dros Ystad y Goron yn ffordd wych o gefnogi’n cymunedau lleol.”

Mae Alun Davies, yr Aelod Llafur o’r Senedd dros Flaenau Gwent, wedi ategu safbwynt Rhun ap Iorwerth.

“Y realiti yw fod angen i Gymru gael ei thrin fel partner cydradd yn y Deyrnas Unedig, ac mae hynny’n golygu y dylid datganoli Ystad y Goron,” meddai.

 

Galw o’r newydd am ddatganoli Ystad y Goron i Gymru

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cyflwyno gwelliant i Ddeddf Ystad y Goron yn Nhŷ’r Arglwyddi ar gyfer pleidlais (dydd Mawrth, Tachwedd 5)