Mae’n bosib bod system argyfwng ar frêcs un o’r trenau fu’n rhan o wrthdrawiad ym Mhowys wedi methu, yn ôl ymchwiliad i’r ddamwain.

Awgryma ymchwiliadau cychwynnol y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd nad oedd y system sy’n rhyddhau tywod er mwyn arafu cerbydau sy’n llithro wedi gweithio ar y trên i Aberystwyth o Amwythig.

Bu farw dyn 66 oed yn y digwyddiad ger Llanbrynmair ar Hydref 21, a chafodd pymtheg o bobol eraill eu trin yn yr ysbyty am anafiadau.

Mae’r adroddiad hefyd yn dweud bod y ddau drên oedd yn rhan o’r gwrthdrawiad ar Reilffordd y Cambrian yn symud ar y pryd.

Trên yn teithio rhwng 15 a 24mya

Yn ôl yr adroddiad, gafodd ei gyhoeddi heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 5), roedd y trên o Amwythig i fod i stopio yn Nhalerddig er mwyn gadael i’r llall basio.

Ond mae dadansoddiad o’r data gafodd ei gofnodi yn y trên yn dangos bod y gyrrwr wedi ceisio arafu wrth agosáu at Dalerddig, a’i fod wedi gorfod defnyddio’r brêc argyfwng tua 40 eiliad wedyn.

Awgryma’r data hefyd fod olwynion y trên hwnnw wedi dechrau llithro pan ddechreuodd yr arafu, a bod y trên wedi parhau i lithro pan gafodd y brêc argyfwng ei ddefnyddio.

Fe wnaeth y cerbydau arafu rywfaint wrth basio Talerddig, a digwyddodd y gwrthdrawiad tua 900m wedi’r man pasio.

Yn ôl yr ymchwiliad, roedd y trên i Aberystwyth yn teithio ar gyflymder o rhwng 15mya a 24mya pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad, a’r llall yn mynd 6mya.

Dydy’r darganfyddiadau hyn ddim yn rhai terfynol, medd y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd, gan ychwanegu bod eu hymchwiliadau nhw’n parhau.

Roedd Tudor Evans o Gapel Dewi ger Aberystwyth, fu farw yn y gwrthdrawiad, yn teithio ar y trên o Amwythig i Aberystwyth, a chlywodd cwest i’w farwolaeth fod ei wraig wedi adnabod ei gorff yn swyddogol yn y fan a’r lle.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r digwyddiad am tua 7:29 nos Lun, Hydref 21, a chafodd pedwar o bobol eraill eu hanafu’n ddifrifol hefyd.

Roedd cyfanswm o 41 o deithwyr ar y ddau drên ar y pryd, un yn teithio o Fachynlleth i Amwythig a’r llall yn mynd o Amwythig i Aberystwyth.

“Sioc a syndod”: Un person wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau drên

Alun Rhys Chivers

Digwyddodd y gwrthdrawiad yn ardal Llanbrynmair neithiwr (nos Lun, Hydref 21), ac mae cwestiynau i’w hateb, medd cynghorydd