Mae Mims Davies, Aelod Seneddol Dwyrain Grinstead ac Uckfield yn Sussex, wedi’i phenodi’n llefarydd materion Cymreig yng nghabinet cysgodol y Ceidwadwyr yn San Steffan.

Cafodd y penodiad ei gadarnhau wrth i Kemi Badenoch, arweinydd newydd y Ceidwadwyr, gyhoeddi ei Chabinet cysgodol.

Mae Mims Davies hefyd wedi derbyn cyfrifoldeb am fenywod.

Mae ei phenodiad wedi’i groesawu gan Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, ond wedi’i feirniadu gan Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, am nad yw Mims Davies yn cynrychioli etholaeth yng Nghymru.

Llongyfarchiadau

“Llongyfarchiadau cynnes i Ysgrifennydd Gwladol newydd yr Wrthblaid ar Gymru,” meddai Andrew RT Davies.

“Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at gael gweithio gyda chi er mwyn sefyll o blaid Cymru a Phrydain.

“Hoffwn ddiolch hefyd i Byron Davies am ei wasanaeth yn y rôl yma dros y misoedd diwethaf.”

Yn dilyn yr etholiad cyffredinol ym mis Gorffennaf, Byron Davies, Arglwydd Gwŷr, oedd yn cysgodi Ysgrifennydd Gwladol Cymru yng Nghabinet yr Wrthblaid dan Rishi Sunak.

Mae’n eistedd yn Nhŷ’r Arglwyddi bellach, ond roedd yn cynrychioli etholaeth Gwŷr yn Nhŷ’r Cyffredin rhwng 2015 a 2017, a Rhanbarth De Orllewin Cymru yn y Senedd ym Mae Caerdydd rhwng 2011 a 2015.

Fe gollodd y Ceidwadwyr bob un o’u seddi yng Nghymru ym mis Gorffennaf, felly dim ond o Dŷ’r Arglwyddi neu o etholaethau y tu allan i Gymru yn Nhŷ’r Cyffredin mae’r blaid yn medru penodi gweinidog i gysgodi Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Cariad at Gymru

Wrth ddiolch i Kemi Badenoch am ei phenodi, fe bwysleisiodd Mims Davies ei chariad at Gymru, lle bu’n astudio ac yn gweithio’n fenyw ifanc [yn Abertawe].

“Rydw i wrth fy modd fod Kemi Badenoch wedi gofyn i fi fod yn Ysgrifennydd Gwladol newydd yr Wrthblaid ar Gymru.

“Mae fy nghariad at Gymru’n barhaol, a dw i wedi cyffroi’n fawr o gael gweithio’n agos gyda’r Ceidwadwyr yng Nghymru ac i sefyll o blaid Cymru yn San Steffan unwaith yn rhagor.

“Mae Cymru’n haeddu gymaint yn well na’r ddwy lywodraeth Lafur fethiannus hyn – yn enwedig Gwasanaeth Iechyd gwell, gwell addysg, cymorth i bensiynwyr, a chefnogaeth go iawn i ffermwyr sy’n dioddef.

“Roeddwn i wir yn caru’r amser dreuliais i’n astudio ac yn gweithio yng Nghymru, ac fe ges i’r fraint o gael gweithio yn Swyddfa Cymru eisoes.

“Diolch yn fawr, Kemi – nawr, amdani!”

Yn 2018, cafodd Mims Davies ei phenodi’n Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru yn Llywodraeth Theresa May.

Mewn cyfweliad bryd hynny, pwysleisiodd fod ei theulu’n “hanner Cymreig”, a’i bod hi wedi byw yn Abertawe am naw mlynedd wrth ddechrau’i gyrfa.

Cwestiynu’r penodiad

“Pam fod y Torïaid wedi penodi’r Aelod Seneddol dros Ddwyrain Grinstead ac Uckfield yn Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Cymru yn hytrach nag un o’u haelodau seneddol Cymreig talentog?” gofynna Liz Saville Roberts ar X (Twitter gynt).

Mae’r map yn y trydariad, o bosib, yn cynnig eglurhad…

Mewn datganiad, dywed ei bod hi’n “llongyfarch” Mims Davies.

“A hithau’n Aelod Seneddol Dwyrain Grinstead ac Uckfield yn Sussex, chwarae teg iddi am gymryd un dros y tîm ar ôl i’r Torïaid fethu â dal gafael ar yr un aelod seneddol Cymreig,” meddai.

“Mae’n dangos, ar ôl yr etholiad cyffredinol, mai Plaid Cymru yw’r wrthblaid Gymreig go iawn i Lafur yn San Steffan.”

Y Cabinet cysgodol yn llawn

Kemi Badenoch – Arweinydd yr Wrthblaid

Mel Stride – Canghellor yr Wrthblaid

Priti Patel – Tramor

Chris Philp – Cartref

Alex Burghart – Gogledd Iwerddon / Dugaeth Caerhirfryn

James Cartlidge – Amddiffyn

Robert Jenrick – Cyfiawnder

Laura Trott – Addysg

Ed Argar – Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Kevin Hollinrake – Codi’r Gwastad, Tai a Chymunedau

Victoria Atkins – Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig

Andrew Griffith – Busnes a Masnach

Claire Coutinho – Diogelwch Ynni a Sero Net / Cydraddoldeb

Helen Whately – Gwaith a Phensiynau

Gareth Bacon – Trafnidiaeth

Stuart Andrew – Cyfryngau, Diwylliant a Chwaraeon

Alan Mak – Gwyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg

Andrew Bowie – Yr Alban / Ynni a Sero Net

Mims Davies – Cymru / Menywod

Rebecca Harris – Prif Chwip yr Wrthblaid

Jesse Norman – Arweinydd Cysgodol Tŷ’r Cyffredin

Yr Arglwydd True – Arweinydd Cysgodol Tŷ’r Arglwyddi

Yr Arglwydd Johnson a Nigel Huddleston – Cyd-gadeiryddion y Blaid Geidwadol

Richard Fuller – Prif Ysgrifennydd Cysgodol y Trysorlys