Bydd Cabinet Cyngor Sir Ceredigion yn ystyried argymhelliad i gau pob chweched dosbarth yn y sir a sefydlu canolfan newydd.

Mae cynghorwyr wedi bod yn ystyried newidiadau i addysg ôl-16, ac mae un o bwyllgorau’r Cyngor wedi argymell rhoi ystyriaeth fanwl i fanteision ac anfanteision dau opsiwn i addasu neu ddatblygu’r ddarpariaeth er mwyn arbed arian.

Fe fydd Cabinet Cyngor Sir Ceredigion yn trafod yr adroddiad a’r adolygiad o ddarpariaeth ôl-16 yn y sir yn eu cyfarfod ar Dachwedd 7, gan gynnwys argymhelliad y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu i edrych yn fanylach ar ddau o’r pedwar opsiwn oedd yn cael eu cynnig yn yr adolygiad.

Mae’r adroddiad yn amcangyfrif ei bod hi’n costio £4,194,750 i redeg cyrsiau chweched dosbarth yn 2023-24, sydd dros £400,000 yn uwch na’r grant chweched dosbarth gan Lywodraeth Cymru.

Yr opsiynau sy’n cael eu hystyried

Opsiwn 2 a 4 yw’r rhai sy’n cael eu hargymhell ar gyfer ystyriaeth bellach gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.

Byddai Opsiwn 2 yn golygu adeiladu ar y sefyllfa bresennol yng Ngheredigion, a byddai darpariaeth ôl-16 yn parhau ar safleoedd Penweddig, Penglais, Aberteifi, Bro Pedr, Dyffryn Teifi ac Aberaeron.

Fe fyddai’r opsiwn hwnnw’n golygu creu Bwrdd Strategol i reoli cyllideb ôl-16 yr awdurdodau, a sicrhau trefniadau addas ar gyfer cyd-gynllunio’r cwricwlwm rhwng y chwe ysgol.

Mae’r adolygiad o ddarpariaeth ôl-16 y sir yn nodi y byddai’r Bwrdd yn gyfrifol am fonitro ansawdd y ddarpariaeth a gwneud argymhellion i’r Cyngor, a allai gynnwys addasu nifer y safleoedd dros amser.

Mae Opsiwn 4 arall yn “cynnig newid mwy pellgyrhaeddol”, medd yr adolygiad.

Byddai’n golygu cau’r ddarpariaeth ôl-16 bresennol, a sefydlu Canolfan Ragoriaeth ar un neu fwy safle.

Wrth ystyried yr anfanteision, mae’r adroddiad yn nodi y byddai’n ansefydlogi’r drefn bresennol ac y gallai greu gwrthwynebiad lleol “sylweddol”.

Mae’n nodi hefyd y gallai staff ac undebau weld yr opsiwn fel un fyddai’n bygwth diogelwch swyddi a morâl, a allai greu ansicrwydd sylweddol mewn ysgolion.

Fodd bynnag, un o’i fanteision, yn ôl yr adolygiad, yw y byddai’n “caniatáu blaenoriaethu anghenion y dysgwyr ar draws y sir wrth wneud penderfyniadau ar y cynnig iddynt”.

Roedd dau opsiwn arall hefyd yn cael eu crybwyll yn yr adolygiad – un i barhau â’r sefyllfa bresennol ac un fyddai’n golygu cau un neu fwy chweched dosbarth a chadw eraill.

‘Cyfrannu i gymuned yr ysgol’

Cadw’r chweched dosbarth yw’r opsiwn sy’n cael ei ffafrio yn Llanbedr Pont Steffan, yn ôl y Cynghorydd Plaid Cymru yno.

“Dydyn ni’n Llanbed ddim yn teimlo bod cael Coleg Chweched Dosbarth yn bwrpasol, efallai y bysa fo’n well mewn ardal fel Aberystwyth lle mae mwy o boblogaeth,” meddai Ann Bowen Morgan wrth golwg360.

“Yn rhywle fel Llanbed, mae pobol yn teithio’n wledig ac yn dod o lefydd bach, [felly] mae’r ysgol yn Llanbed eisiau cadw’r chweched.

“Mae yna chweched dosbarth da iawn yn Llanbed, mae Bro Pedr yn cael canlyniadau da iawn ac mae yna gydweithio rhwng Ysgol Llanbed ac Aberaeron, er enghraifft.

“Opsiwn 2, yn bendant ydy’r teimlad o ran llywodraethwyr yr ysgol, ac o ran fi fy hun, a phobol yn gyffredinol.

“Mae’r chweched dosbarth yn cyfrannu cymaint i gymuned yr ysgol.

“Mae Ysgol Tregaron wedi colli’u chweched dosbarth rŵan ers cwpwl o flynyddoedd ac i Lanbed maen nhw’n tueddu i dynnu – mae yna rai’n mynd wrth gwrs i Aberystwyth ond mae yna lot fawr yn dod i fan hyn.”

Gostyngiad mewn disgyblion

Mae niferoedd dysgwyr Blwyddyn 12 o fewn chweched dosbarth ysgolion Ceredigion wedi gostwng o 535 yn 2014/15 i 390 yn 2020/21.

“Yn anorfod, mae’r gostyngiad a ddisgrifir uchod yn niferoedd y dysgwyr wedi cael effaith negyddol ar y cyllid a ddyfernir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer darpariaeth ôl -16 yng Ngheredigion,” medd yr adolygiad.

“Yn dilyn dwy flynedd sefydlog yn 2020/21 a 2021/22, ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23 gwelwyd gostyngiad o dros £273k (7.05%) yn y cyllid, y gostyngiad uchaf o unrhyw awdurdod yng Nghymru.

“Nid yw’r rhagfynegiadau o ran niferoedd dysgwyr i’r dyfodol yn awgrymu y bydd y cyllid hwn yn cael ei adennill yn fuan.”

Fe wnaeth yr adolygiad gasglu barn 1,306 o bobol – 598 o ddysgwyr, 652 o rieni, 51 athro a phum cyflogwr – wrth fynd ati i wneud yr adolygiad.

Y prif bwyntiau gafodd eu codi oedd yr angen am ddewis eang o bynciau; y gallu i ddysgu drwy’r Gymraeg neu’r Saesneg; buddion aros yn yr un sefydliad; cysylltiadau â’r byd gwaith; cydweithio rhwng ysgolion neu sefydlu canolfannau rhagori, ac athrawon a chyngor da diduedd.

‘Darparu dadansoddiad’

Fe wnaeth Cabinet y sir gytuno fis Ionawr y llynedd ei bod hi’n amserol cynnal adolygiad o’r ddarpariaeth ôl-16 yng Ngheredigion, yn ôl llefarydd ar ran y Cyngor.

“Bwriad yr adolygiad oedd darparu dadansoddiad ac arfarniad o’r sefyllfa gyfredol o ran darpariaeth ôl-16 yng Ngheredigion a nodi opsiynau cynaliadwy i’r dyfodol, ynghyd â’u manteision ac anfanteision posib,” meddai.

“Cytunwyd yng nghyfarfod o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu ar Fedi 28, i argymell i’r Cabinet bod Astudiaeth Ddichonolrwydd yn cael ei gynnal, er mwyn rhoi ystyriaeth fanwl i fanteision ac anfanteision Opsiwn 2 ag Opsiwn 4 yng nghyd-destun y chwe egwyddor.

“Mae’r adroddiad a’r adolygiad o’r ddarpariaeth ôl-16 yng Ngheredigion ar agenda’r cyfarfod Cabinet ar Dachwedd 7, gan gynnwys argymhelliad y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.”

Mae’r chwe egwyddor sy’n cael eu crybwyll yn cynnwys:

  • blaenoriaethu anghenion dysgwyr dos unrhyw anghenion sefydliadol
  • cynnal a gwella’r safonau “cyffredinol uchel” yn ysgolion y
  • sir
  • sicrhau gwell
  • tegwch a chyfleoedd cyfartal i bob dysgwr yn y sir
  • cryfhau’r cynnig yn y Gymraeg i fod o leiaf yn gyson â’r cynnig yn Saesneg
  • sicrhau mynediad at ystod eang o gyrsiau academaidd a galwedigaethau o safon uchel, a chynyddu argaeledd cyrsiau galwedigaethol dros y sir
  • sicrhau bod llywodraethiant y ddarpariaeth ôl-16 yn hyrwyddo’r egwyddorion uchod, yn ystyried prosesau gwella ansawdd strategol, yn sicrhau bod gwariant yn cael ei gadw gymaint â phosib oddi mewn i’r gyllideb ôl-16, ac yn caniatáu gwneud penderfyniadau sydd yn rhoi ystyriaeth i gynaliadwyedd amgylcheddol ac ôl-troed carbon.