Dylai ysgolion Cymru gynhyrchu cynlluniau teithio i’r ysgol er mwyn newid y ffordd mae pawb yn teithio yno, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Y nod ydy hyrwyddo teithio llesol ac, yn ôl Llywodraeth Cymru, gall pob ysgol fynd i’r afael â materion tu allan i giatiau’r ysgol, gan nodi sut i wella’r diogelwch o’u hamgylch nhw.
Mae Llywodraeth Cymru wedi creu partneriaeth â Sustrans Cymru, sy’n darparu pecyn cymorth i helpu i greu Cynllun Teithio Llesol Ysgolion.
Pwrpas y cynllun ydy amlinellu camau gweithredu i ysgolion hyrwyddo cerdded, beicio neu ddefnyddio sgwteri i gyrraedd yr ysgol.
‘Cyfle gwych’
Gall ysgolion gael arweiniad arbenigol gan Swyddogion Cynllunio Teithio Llesol Ysgolion hefyd, wrth iddyn nhw ysgrifennu eu cynlluniau a chysylltu â’u hawdurdod lleol i wella eu diogelwch ar strydoedd cyfagos.
“Mae hwn yn gyfle gwych i ysgolion sydd eisiau creu lleoedd hapusach ac iachach ar gyfer cymuned eu hysgol,” meddai Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Cymru.
“Bydd unrhyw ysgol sy’n cymryd rhan yn cael mynediad at amrywiaeth eang o adnoddau, o weithdai a gweithgareddau i arolygon a llawer mwy, gan eu helpu i greu achos cadarnhaol dros newid yng nghymuned eu hysgol.”
Mae’r fenter yn rhan o waith Llywodraeth Cymru i gyflawni Agenda Cynaliadwyedd Cymru ac Agenda 2030 y Cenhedloedd Unedig drwy ddod ag addysg, trafnidiaeth a chynllunio ynghyd.