Bydd Cyngor Caerdydd yn parhau â’u targedau ceir trydan, er i Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, ohirio’r targedau gwahardd ceir petrol a disel o 2030 tan 2035 yn ddiweddar.

Yn ôl rhagolygon Llywodraeth Cymru, bydd angen rhwng 4,800 a 7,800 o fannau gwefru cyflym yng Nghaerdydd erbyn 2030.

Ar hyn o bryd, dim ond 188 o fannau gwefru sydd ar gael i’r cyhoedd eu defnyddio.

Dywed y Cynghorydd Caro Wild fod yn rhaid parhau â’r gwaith o ehangu nifer y gwefrwyr er lles yr amgylchedd.

“Mae ffigurau’n dangos bod y cyhoedd yn newid yn gynyddol i gerbydau trydan wrth iddyn nhw geisio lleihau eu hallyriadau carbon,” meddai.

“Er gwaethaf penderfyniad diweddar y Prif Weinidog i gefnu ar ymrwymiadau amgylcheddol ac oedi gwaharddiad ar gerbydau disel a phetrol newydd, bydd gwaith y Cyngor i ehangu nifer y gwefrwyr cerbydau trydan sydd ar gael i drigolion, fel y gallwn eu galluogi i newid, yn parhau.”

Mae disgwyl y bydd angen rhwng 30,000 a 50,000 o wefrwyr cyflym ledled Cymru yn y pen draw, gyda’r mwyafrif ohonyn nhw wedi’u lleoli mewn dinasoedd.

Gwefru cefn gwlad

Mae Liz Saville Roberts eisoes wedi codi pryderon fod angen gwneud mwy i wella’r cysylltedd ar gyfer ceir trydan yng nghefn gwlad hefyd.

Dywed fod angen gwthio am fwy o fannau gwefru er mwyn gallu cynnal y diwydiant twristiaeth dros flynyddoedd i ddod, oherwydd ei bod yn annhebygol y bydd y farchnad yn canolbwyntio ryw lawer ar Gymru.

“Mae yno ryw ymagwedd ein bod ni’n bell allan ac mi ddaw’r gwasanaethau atom ni olaf, bydd y farchnad ddim yn datrys y broblem i ni,” meddai.

“Mae’r Llywodraethau yn fodlon iawn dweud wrthon ni mai twristiaeth yw ein prif ddiwydiant ni.

“Ond, wrth geisio mynd o le i le gyda char trydan, dim ond hyn o hyn o filltiroedd y gallwch chi fynd gan fod pwyntiau gwefru cyflym yn brin iawn.

“Felly, mae gennym ni broblem fawr ac mae’r grid angen gwella er mwyn gallu cynnal y diwydiant rydyn ni mor ddibynnol arni hi.”