Mae’r Ceidwadwr Penny Mordaunt wedi cyhuddo Keir Starmer, arweinydd Llafur, o fethu â “gallu sefyll i fyny i Mark Drakeford”.

Daeth ei sylwadau am Brif Weinidog Cymru yn ystod araith yng nghynhadledd y Ceidwadwyr ym Manceinion.

Yn ystod ei haraith, wnaeth Arweinydd Tŷ’r Cyffredin grybwyll annibyniaeth i Gymru a’r terfyn cyflymder o 20m.y.a. sydd mewn grym yng Nghymru ers rhai wythnosau bellach – ond sydd mewn grym yn ei hetholaeth hithau yn Portsmouth ers 2010, pan ddaeth hi’n Aelod Seneddol.

Er iddi awgrymu bod Prif Weinidog Cymru’n arddel Cymru annibynnol, dydy e erioed wedi datgan ei gefnogaeth i’r syniad.

“Wn i ddim amdanoch chi, gynhadledd, ond dw i ddim yn ymddiried yn arweinyddiaeth Keir Starmer i allu sefyll i fyny i’r dwrn dur,” meddai Penny Mordaunt.

“Pam? Oherwydd dydy e ddim hyd yn oed yn gallu sefyll i fyny i Mark Drakeford a’i gynlluniau am annibyniaeth i Gymru – Cymru annibynnol 20m.y.a.”