Mae Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, wedi cyhoeddi yng nghynhadledd y Ceidwadwyr y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn buddsoddi £1bn i drydaneiddio prif reilffordd gogledd Cymru.
Daw hyn wedi’r cyhoeddiad am dro pedol o ran y cyswllt rheilffordd HS2 rhwng Birmingham a Manceinion.
Yn ôl Sunak, “mae angen cysylltiadau trafnidiaeth well yn y gogledd”, ac mae’n dweud mai dyna fydd blaenoriaeth ei lywodraeth.
“HS2 yw’r esiampl o’r hen gonsensws,” meddai, gan ychwanegu mai newid cyfeiriad “yw’r peth iawn i’w wneud”, wedi i’r cynnydd mewn costau ac effeithiau Covid-19 newid y cynlluniau.
“Felly rydw i’n dod â’r saga yma i ben, ac yn canslo gweddill HS2,” meddai.
Dywed y bydd yr arian oedd yn wreiddiol ar gyfer y prosiect yn cael ei ddyrannu i bob rhanbarth y tu allan i Lundain, gan gynnwys Cymru.
“Cynllun i Lundain yn unig”
Ond dydy Liz Saville Roberts ddim yn credu bod hyn yn ddigonol, ac mae hi wedi codi pryderon fod y swm o £1bn yn sylweddol is na’r swm y dylai Cymru fod yn ei dderbyn.
“Rheilffyrdd cyflym i Lundain, briwsion o’r bwrdd i Gymru,” meddai arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.
“Dywedir y bydd trydaneiddio prif lein gogledd Cymru yn derbyn tua £1bn.
“Ni fydd Plaid Cymru yn derbyn bod yr addewid hwn yn disodli’r mwy na £2bn y dylai Cymru fod wedi’i dderbyn eisoes yn symiau canlyniadol Barnett ar gyfer cam cyntaf HS2.
“Dim ond diolch i alw degawd o hyd Plaid Cymru i Gymru dderbyn ein cyfran deg o HS2 y mae Rishi Sunak bellach yn teimlo dan bwysau i roi addewidion gwag o’r buddion mwyaf cymedrol i Gymru.”
Dywed fod yr addewid o drydaneiddio’r rheilffordd rhwng Caerdydd ac Abertawe yn un mae’r Ceidwadwyr eisoes wedi methu cadw ato.
Awgryma mai datganoli’r seilwaith rheilffyrdd yn llawn i Gymru a “throsglwyddo’r biliynau sy’n ddyledus drwy fformiwla Barnett” yw’r “unig ffordd o ddatrys y saga”.
“Ni allwn gredu gair sydd gan y Ceidwadwyr i’w ddweud ar drydaneiddio,” meddai.
“Nid cynllun i Loegr yn unig yn unig yw HS2, mae’n gynllun Llundain yn unig.
“Dylai Cymru, felly, gael iawndal llawn am gyllid a wariwyd ar y cam cyntaf hyd yn hyn, yn union fel y gwnaethom ar gyfer Crossrail.
“Byddai’r biliynau o arian sy’n ddyledus i ni yn chwyldroi ein seilwaith trafnidiaeth sy’n dirywio, yn adfer ein gwasanaethau bysiau, ac yn gwella cysylltedd gogledd-de yn sylweddol yn ein cenedl.”
“Angen newid radical”
Dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford ei bod yn amlwg mai “cynllun i Loegr yn unig yw HS2, neu beth bynnag sydd yn weddill ohono”.
“Mae nawr angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig weithredu a rhoi’r arian sy’n ddyledus i bobol Cymru o’r cynllun aflwyddiannus hwn,” meddai.
Mae YesCymru hefyd yn galw ar Lywodraeth San Steffan i ailgategoreiddio’r prosiect fel un Lloegr yn unig, ac i roi’r £5bn sy’n ddyledus trwy Fformiwla Barnett yn ôl yn nwylo Cymru.
“Mae’r rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru yn cael ei drin fel llinellau cangen ar rwydwaith y Deyrnas Unedig,” meddai Geraint Thomas ar ran y mudiad annibyniaeth.
“Mae’n hen bryd ariannu ein rhwydwaith rheilffyrdd, ac wrth i ni yrru tuag at Gymru annibynnol mae angen newid radical yn y ffordd rydym yn cynllunio, dylunio ac ariannu ein rhwydwaith.”
Dywed fod hanes San Steffan o fuddsoddi mewn rheilffyrdd yng Nghymru yn “druenus”, gan feirniadu’r diffyg “tystiolaeth glir” gan Rishi Sunak ynglŷn â’r camau nesaf ar gyfer trydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru.
“Dim ond annibyniaeth fydd yn dod â rhwydwaith rheilffyrdd Cymru hyd at safonau’r 21ain ganrif drwy fuddsoddi yn ein seilwaith ein hunain gyda blaenoriaethau pobl Cymru wrth galon ein penderfyniadau,” meddai.
‘Cyflawni dros Gymru’
Ond mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi croesawu’r newyddion am y “cynlluniau uchelgeisiol”.
“Mae ei gyhoeddiad yn newyddion gwych i Gymru gyda chyllid sylweddol i drydaneiddio Prif Reilffordd Gogledd Cymru,” meddai.
“Ar ben hynny bydd Cymru’n cael cyllid pellach drwy symiau canlyniadol Barnett o fuddsoddiad mewn prosiectau lleol yn Lloegr.
“Mae Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig yn parhau i gyflawni dros Gymru tra bod y Llywodraeth Lafur yn parhau i daflu arian trethdalwyr Cymru ar eu prosiectau gwagedd fel £120 miliwn ar fwy o wleidyddion.”