Mae gan Ganolfan Gymuned Noddfa yng Nghaernarfon, sy’n cynnig prydau poeth a lloches, gynllun ar y gweill i fynd i’r afael ag unigrwydd.

Yn ôl Dewi Jones, cynghorydd yn ward Peblig, nod y cynllun yw sicrhau bod gan bobol rywle i ddod ynghyd bob yn ail ddydd Iau i fwyta, cymdeithasu a chael eu diddanu.

Bydd y cynllun yn dechrau dydd Iau yma (Hydref 5), ac Age Cymru sy’n gyfrifol am drefnu’r bwyd.

“Mae’n helpu efo bob mathau o bethau,” meddai Dewi Jones wrth golwg360.

“Mae’r bwyd ar gael i unrhyw un sydd eisiau, a bydd pobol yn cael cyfle i gyd-fwyta a rhannu pryd.

“Mae’n bwysig bod ni’n rhoi cyfleodd i bobol ddod allan o’r tŷ, i gael cymdeithasu, i gael cyfle i gael sgwrs efo rhywun arall, i gael dod at ein gilydd oherwydd mae hwnna’n taclo llawer o broblemau o fod yn ynysig a bod ar ben dy hun.

“Mae’n bwysig bo ni’n rhoi cyfleodd i o bobol ddod allan o’r tŷ, i gael cymdeithasu, i gael cyfle i gael sgwrs efo rywun arall, i gael dod at ein gilydd oherwydd mae hwnna’n taclo llawer o broblemau o fod yn ynysig a bod ar ben dy hun.

“Mae’n rhywbeth dynol, mae pawb angen cymdeithasu, mae pawb angen cyfle i gymysgu efo pobol eraill, wedyn gobeithio bod hwn yn rhoi’r cyfle yna.

“Dydy pobol ddim yn gorfod dod ar ben eu hunain, maen nhw’n gallu dod â ffrind efo nhw.

“Gobeithio bod o’n rhywbeth llesol i ddod at ei gilydd, a siarad a sgwrsio a chymdeithasu.”

Dilyn llwyddiant prosiect arall

Daw’r cynllun hwn yn dilyn llwyddiant cynllun tebyg yn y Noddfa y llynedd.

“Rydym yn gwneud hyn ar ôl llwyddiant prosiect wnaethon ni ei redeg rhwng mis Hydref a mis Gorffennaf y llynedd,” meddai Dewi Jones.

“Roeddem yn gwneud y cinio yn Noddfa bob pythefnos, ac roeddem yn cael criw da o bobol oedd yn mwynhau dod.

“Roedd pobol yn gofyn pan oedd y cynllun yn dod i ben, ‘Fyddwch chi’n cario ymlaen?’

“Wedyn be’ ddywedon ni ar y pryd ydy y bydden ni’n ceisio ffeindio cyllid, ac wedyn rydym wedi cael y grant yma drwodd rŵan.

“Rydym yn gallu parhau efo’r cynllun trwy’r hydref a’r gaeaf eleni.”

Mae Dewi Jones yn annog pobol i fanteisio ar y sesiynau.

“Dewch!” meddai, gan ychwanegu ei bod hi’n rhad ac am ddim ac yn “agored i bawb”.

“Dim dim ond ward Peblig, ond pob rhan o’r dref a thu hwnt,” meddai.

Adloniant

Ymhlith yr adloniant sydd wedi’i gynnal yn y Ganolfan yn y gorffennol mae cyngherddau gyda chantorion megis Dylan a Neil.

Yn ôl Dewi Jones, maen nhw’n anelu i “wrando ar beth mae pobol sydd yn y clwb cinio ei eisiau, beth fysa ganddyn nhw ddiddordeb ynddo fo”.

“Mae o’n ben agored iawn,” meddai.

“Rydym yn gobeithio cael yr ysgolion lleol i mewn dros amser Nadolig a chodi’r to eto i wneud ychydig o garolau.

“Byddwn ni, gobeithio, yn cael artistiaid lleol i ddod i roi ychydig o adloniant.”