Mae gwefan addysgol sy’n edrych ar gyfraniad pobol ddu, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol wedi cael ei lansio fis yma.
Cafodd y wefan Hanes Cymru Ni ei chynllunio’n benodol ar gyfer Cwricwlwm Cymru, ac mae ganddi adrannau i blant rhwng tair ac 16 oed.
A hithau’n Fis Hanes Pobol Ddu, bwriad y wefan gan Telesgop ydy addysgu a dathlu cyfoeth amrywiaeth Cymru.
Yn ogystal â gwybodaeth am bobol, lleoedd a digwyddiadau o bwys, mae’r wefan hefyd yn cynnwys adnoddau ychwanegol fel straeon, monologau, stribed cartŵn, erthyglau papur newydd, clipiau sain a fideos.
Er mai gwefan i gyd-fynd â’r cwricwlwm ydy hi, mae modd i unrhyw un fynd arni a dysgu mwy am gymeriadau amlwg fel yr athrawes arloesol Betty Campbell a’r athletwr Colin Jackson, a rhai llai adnabyddus fel y garddwr John Ystumllyn a’r nyrs Vernester Cyril.
Mae cyfraniadau hefyd gan bobol sy’n llunio hanes Cymru heddiw, megis y cerddor Dom James, yr anturiaethwr a chyn-chwaraewr rygbi Richard Parks, y ddigrifwraig Mel Owen a’r bardd Hanan Issa.
‘Hanes yn ei gyfanrwydd’
Cafodd y wefan ei chreu gan weithio’n agos gydag athrawon, arbenigwyr addysgol a phobol ddu, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol, a’r gobaith yw y bydd yr adnoddau’n helpu athrawon.
“Mae wedi gweithio ar y prosiect yma wedi bod yn fraint ac yn agoriad llygad i mi,” meddai Aled Richards, Pennaeth Addysg Telesgop.
“Rwyf wedi cwrdd â chymaint o bobol ysbrydoledig ac wedi dysgu cymaint am gyfraniadau bobol ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig i hanes Cymru – pobol doedd gen i ddim syniad amdanyn nhw o’r blaen!
“Mae’r cwricwlwm newydd yn rhoi cyfle i ni roi’r lle priodol i hanes Cymru yn ein hysgolion ac mae’n bwysig i ni edrych ar hanes Cymru yn ei gyfanrwydd – nid yn unig trwy lens pobol wyn.
“Mae’n achos dathlu bod ein hysgolion yn amlddiwylliannol ac mae’n hanfodol bod ein hadnoddau addysgol yn adlewyrchu’r amrywiaeth yma a bod y disgyblion yn gallu uniaethu gyda’r bobol sy’n cael eu cyflwyno iddynt.
“Dw i’n gobeithio’n fawr bydd yr adnodd ysbrydoliaeth i athrawon i gyflwyno’r cwricwlwm newydd i godi’r llen ar hanes cudd Cymru ac y bydd e’n gam pwysig ar y siwrne o greu Cymru wrth-hiliol.”