Mae cynghorydd sir yn awyddus i bobol yng Ngheredigion fanteisio ar gronfa sy’n cefnogi unigolion, busnesau a chymunedau i ddarparu atebion cynaliadwy i heriau’r sir.

Nod Cynnal y Cardi yw mynd i’r afael â rhai o heriau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Ceredigion.

Mae Clive Davies, yr Aelod Cabinet dros yr Economi ac Adfywiad, yn dweud ei fod e “eisiau i gymaint o bobol fynd ar gyfer y grant yma i gael pob ceiniog ma’s i fusnesau a chymunedau yng Ngheredigion”.

Cafodd y gronfa ei hagor ddydd Iau (Medi 28).

Mae Cronfa Ffyniant Cyffredin y Deyrnas Unedig yn cael ei darparu gan Gynnal y Cardi, cynllun gaiff ei weinyddu gan Gyngor Sir Ceredigion i gyflawni gweithgarwch ar draws dwy flaenoriaeth buddsoddi yng Ngheredigion: Cronfa Gymorth Cynnal y Cardi ar gyfer Datblygu Cymunedol a Chronfa Gymorth Cynnal y Cardi i fusnesau.

O fewn y blaenoriaethau buddsoddi, mae yna flaenoriaethau lleol sy’n allweddol; maen nhw’n cael eu galw’n ymyriadau.

Mae’r rhain yn cael eu hamlinellu yng Nghynllun Buddsoddi Rhanbarthol Cronfa Ffyniant Cyffredin y Deyrnas Unedig – Canolbarth Cymru, ynghyd â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu’r rhanbarth, a’r allbynnau a’r canlyniadau cysylltiedig er mwyn i Lywodraeth Cymru adnabod prosiectau i’w cyflawni.

Cynnal y Cardi

Cafodd Cronfa Gymorth Cynnal y Cardi ei chynllunio ar gyfer Datblygu Cymunedol, i ddarparu cyfleoedd i sefydliadau ddarparu gwasanaethau neu weithio gyda chymunedau gwledig i dreialu ffyrdd newydd o weithio, neu syniadau sy’n mynd i’r afael â materion sy’n cyd-fynd â’r blaenoriaethau allweddol:

  • cryfhau a chefnogi cymunedau lleol
  • meithrin balchder wrth gefnogi’r economi leol
  • creu mannau gwyrdd diogel a chymdogaeth economaidd wydn, iach a bywiog.

Gall y mesurau hyn gael eu dehongli mewn sawl ffordd:

  • gwelliannau i safleoedd ac ardaloedd presennol
  • newid yn yr hinsawdd
  • profiad ymwelwyr
  • defnydd o’r sector diwydiannau creadigol
  • astudiaethau dichonoldeb
  • cynllunio olyniaeth
  • mesurau cymunedol i frwydro yn erbyn costau byw
  • gwella seilwaith o fewn cymunedau lleol.

Mae cynllun grantiau llwybr cyflym bach yn cynnig rhwng £1,000 a £10,000 tra bod grant rhwng £10,001 a £50,000 ar gael hefyd, tra bydd “angen rhesymeg gadarn” dros wneud cais am fwy o arian na hynny, yn ôl y Cyngor.

Hybu busnesau

Cafodd y gronfa ei chynllunio i hybu’r economi leol, drwy gefnogi busnesau newydd a rhai sydd wedi’u hen sefydlu, a darparu cymorth gyda mannau gwyrddach drwy ddatgarboneiddio, effeithlonrwydd ynni a chymorth digidol.

Canolbwyntia’r gronfa ar weithgarwch entrepreneuraidd, cymorth i fusnesau newydd, a datblygu twf i ysgogi arloesedd ac ennill sgiliau er mwyn creu’r amodau i greu swyddi o werth uwch yn yr economi.

Mae’n cynnwys cefnogaeth i ddyrchafu ac ecsbloetio elfennau digidol o fewn y sector, gwaith dichonoldeb, cyllid ar gyfer comisiynu strategol, a chreu hybiau o fewn cymunedau’r sir i alluogi perchnogion busnes i rannu arfer da a chydweithio.

“Byddem yn annog unrhyw grŵp neu fusnes lleol sydd am wneud gwahaniaeth i’w cymuned i wneud cais am Gronfa Cynnal y Cardi,” meddai Clive Davies wrth golwg360.

“Mae’r cyfleoedd ariannu hyn yn cefnogi ein blaenoriaethau corfforaethol i hybu’r economi, cefnogi busnesau a galluogi cyflogaeth ynghyd â chryfhau gwytnwch ein cymunedau i ddod yn fwy cynaliadwy, gwyrdd gyda chysylltiadau da.

“Pwrpas y grant yma yw twf a gwella’r ffordd mae busnesau yn rhedeg ac yn y blaen.

“Hefyd, mae ochr gymunedol o fewn y grant, i helpu cymunedau i allu ffynnu.”

Cael arian allan i fusnesau a chymunedau yng Ngheredigion

Er bod y cynllun ond ar agor ers dau ddiwrnod, mae cryn ddiddordeb ynddi eisoes, yn ôl Clive Davies.

“Mae’r dyddiad cau ddiwedd mis Hydref,” meddai.

“Dwi’n annog pobol i fynd ar gyfer y grantiau.

“Mae e’n rywbeth da i Geredigion ein bod ni’n gallu cael y grantiau yma i helpu busnesau a helpu’r cymunedau lleol fynd amdan yr arian.

“Mae’r gyllideb gyda ni.

“Mae’r ffenest ar agor rhwng nawr a diwedd Hydref am geisiadau, dim ond dydd Gwener agorodd e.

“Ddiwedd y mis fyddwn ni’n gwybod yn well faint o geisiadau rydym am gael.

“Rwy’n siŵr bydd yn boblogaidd, mae llawer o ymholiadau wedi dod mewn, galla i ddweud hynny.

“Rwy’ wedi cael sawl ymholiad yn barod o’r ddau bwynt, o’r ochr fusnes a hefyd yr ochr gymunedol, sydd yn dangos bod diddordeb yn y peth.

“Mae gwir angen am help i wneud rhywbeth gwahanol, cael offer i’r busnes efallai, a hyd yn oed cyflogi person.

“Ar ddiwedd y dydd, rwy’ eisiau i gymaint o bobol fynd ar gyfer y grant yma i gael pob ceiniog ma’s i fusnesau a chymunedau yng Ngheredigion.”