Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gofyn am farn trigolion am y newidiadau arfaethedig i leoliad gorsafoedd pleidleisio’r sir.

Mae’n ddyletswydd ar Gyngor Sir Ceredigion i adolygu eu dosbarthiadau etholiadol a’u mannau pleidleisio ar gyfer etholiadau’r Deyrnas Unedig bob pum mlynedd o leiaf.

Mae newidiadau’n cael eu cynnig ar gyfer sawl lleoliad gorsaf pleidleisio fel rhan o’r adolygiad.

Mae’r cynigion wedi’u cyflwyno yn seiliedig ar nifer o ffactorau, gan gynnwys:

  • y dosbarth etholiadol
  • gofynion hygyrchedd, yn unol â Deddf Etholiadau 2022
  • nifer yr etholwyr a’r nifer sy’n pleidleisio drwy’r post, sy’n cynyddu bob blwyddyn
  • mannau pleidleisio a’r gorsafoedd pleidleisio eraill sydd ar gael o fewn y dosbarth etholiadol neu gerllaw.
  • gwneud pleidleisio yn fwy hygyrch, gan gynnwys bwrw pleidlais yn bersonol

“Er bod hwn yn ofyniad statudol, rydym am sicrhau bod gorsafoedd pleidleisio o amgylch y sir yn hygyrch ac yn addas i’r diben i alluogi etholwyr i bleidleisio yn bersonol. Hoffem glywed eich barn fel rhan o’r ymgynghoriad,” meddai’r Cynghorydd Bryan Davies, arweinydd Cyngor Sir Ceredigion.

Gall trigolion ddweud eu dweud o Hydref 2 tan Tachwedd 10, a hynny ar-lein, drwy’r post neu e-bost.

Mae modd casglu copïau papur o lyfrgelloedd Ceredigion, neu drwy ffonio 01545 572032 neu e-bostio gwasanaethauetholiadol@ceredigion.gov.uk

Mae fformatau eraill, gan gynnwys Hawdd i’w Ddarllen a phrint bras, ar gael hefyd.