Bydd pobol rhwng 51 a 54 mlwydd oed yn gymwys ar gyfer prawf sgrinio canser y coluddyn o hyn ymlaen, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Cyn hyn, roedd yn rhaid bod yn 55 mlwydd oed er mwyn bod yn gymwys, a’r gobaith yw y bydd gostwng yr oedran yn cynyddu’r gallu i drin y canser yn gynnar.
“Gall sgrinio’r coluddyn helpu i ddod o hyd i ganser y coluddyn yn gynnar, pan nad oes gennych unrhyw symptomau,” meddai Steve Court, pennaeth sgrinio coluddion Iechyd Cyhoeddus Cymru.
“Mae canfod yn gynnar mor bwysig oherwydd bydd o leiaf 9 o bob 10 o bobl yn goroesi canser y coluddyn os caiff ei ddarganfod a’i drin yn gynnar.
“Mae sgrinio’r coluddyn hefyd yn canfod polypau a all droi’n canser, er mwyn eu tynnu cyn bod hynny’n digwydd.”
Prawf Cartref
Yn ôl ymchwil ddiweddar, dywed wyth ym mhob deg o bobol y bydden nhw’n gyfforddus yn siarad yn agored am brawf sgrinio’r coluddyn.
Yn yr un modd, dywed 90% y bydden nhw’n fodlon gwneud prawf cartref.
Yn rhan o’r cynllun, bydd y profion yn cyrraedd drwy’r post yn awtomatig bob dwy flynedd.
Mae’n gam yn agosach at y targed ehangach o ostwng yr oedran sgrinio i 50 y flwyddyn nesaf.
Mae’r Gweinidog Iechyd yn argymell y dylai pawb ddefnyddio’r prawf pan ddaw trwy’r post.
“Hyd yn oed yng nghyfnodau cynnar canser y coluddyn, gallech chi deimlo’n iach,” meddai Eluned Morgan.
“Felly, mae’n hanfodol sgrinio er mwyn canfod canser cyn i unrhyw symptomau ymddangos, gan fod canfod canser a’i drin yn gynnar yn golygu bod llawer iawn mwy o bobol yn goroesi.
“Gall y profion hyn achub bywydau.
“Er ei bod yn dda gweld bod nifer uchel o bobol yn manteisio ar y cyfle i gael y prawf ar hyn o bryd, nid yw oddeutu traean y bobol sy’n cael y cynnig yn manteisio arno.
“Felly, hoffwn annog pawb sy’n cael cynnig y prawf i fanteisio ar y cyfle hwn gan y gallai achub eu bywyd.”
‘Croesawu’r cyfle’
Roedd 10% o’r marwolaethau sy’n ymwneud â chanser yn gysylltiedig â chanser y coluddyn rhwng 2017 a 2019, yn ôl Cancer Research UK.
Mae’r gostyngiad oedran wedi cael ei groesawu gan Genevieve Edwards, Prif Weithredwr Bowel Cancer UK.
“Sgrinio yw un o’r ffyrdd gorau o wneud diagnosis o ganser y coluddyn yn gynnar, pan fydd yn llawer haws ei drin, neu mewn rhai achosion, bydd yn bosibl ei rwystro rhag datblygu yn y lle cyntaf,” meddai.
“Felly, rydyn i’n croesawu’r cyfle i wahodd mwy o bobol i gwblhau’r prawf, ac rydyn ni’n annog pawb i fanteisio ar y cyfle hwn pan fyddan nhw’n cael y cynnig.”