Mae Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, wedi beirniadu Suella Braverman am gyfeirio at “gorwynt o fewnfudwyr”.
Yn ei haraith yng nghynhadledd y Ceidwadwyr, fe wnaeth Ysgrifennydd Cartref San Steffan ladd ar “gredoau moethus” pobol ryddfrydol.
Dywedodd y dylid ailenwi’r Ddeddf Hawliau Dynol yn Ddeddf Hawliau Troseddol, gan ddadlau y byddai’r Deyrnas Unedig yn mynd yn rhy “woke” o dan Lywodraeth Lafur.
Rhybuddiodd y byddai pobol “yn cael eu cwrso allan o’u swyddi am ddweud na all dyn fod yn fenyw”, a’u “ceryddu am wfftio eu bod nhw’n elwa ar hiliaeth sefydliadol”.
‘Y gwir yn blwmp ac yn blaen’
Yn ôl Jane Dodds, mae Suella Braverman yn dweud y “gwir yn blwmp ac yn blaen, syml”.
“Mae gan yr Ysgrifennydd Cartref restr hir o feirniaid oherwydd, dro ar ôl tro, mae hi’n fodlon peryglu bywydau a diogelwch rhai o’r bobol fwyaf bregus yn y byd, yn y gobaith o ymestyn ei gyrfa wleidyddol,” meddai.
“Mae Suella Braverman ac anwireddau’r Ceidwadwyr sydd wedi’u gyrru gan gasineb yn ymgais i hollti’r gymdeithas Brydeinig, gan droi pobol yn erbyn ei gilydd, cythreulio pobol sy’n dod i Brydain i chwilio am ddiogelwch a lle i’w alw’n gartref lle gallan nhw ailadeiladu eu bywydau.
“Bob tro mae Suella Braverman yn ymyrryd, mae hi’n achosi niwed dirifedi i le’r wlad ar lwyfan y byd, ac i’r bobol sydd wedi dod i Brydain a chyfrannu a chyfoethogi ein gwlad.
“Y gwirionedd trist yw fod gan yr Ysgrifennydd Cartref fwy o ddiddordeb mewn porthi pryderon a chythruddo aelodau Ceidwadol na datrysiadau go iawn i greu system deg.
“Mae hi’n camarwain pleidleiswyr ac yn esgeuluso Prydain.
“Yn anffodus, mae’n ymddangos bod pobol egwyddorol fel Andrew Boff [Ceidwadwr gafodd ei daflu allan o’r gynhadledd am feirniadu’r Ysgrifennydd Cartref a’r Blaid Geidwadol] yn brin yn y Blaid Geidwadol.”