Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am ymateb gan Lywodraeth Cymru i bryderon am bremiwm treth y cyngor ar ail gartrefi sy’n “gyrru llety gwyliau dilys allan o fusnes”.
Mae Mark Isherwood, llefarydd y blaid ar ogledd Cymru, yn galw ar y Prif Weinidog Mark Drakeford i ymateb i ofnau perchnogion busnes yn Sir y Fflint a Sir Ddinbych sy’n cael eu “gorfodi i gau” o ganlyniad i’r rheol 182 diwrnod.
O fis Ebrill, bydd yn rhaid bod llety gwyliau yng Nghymru’n cael eu rhentu am 182 diwrnod y flwyddyn cyn eu bod nhw’n gymwys ar gyfer cyfraddau busnes.
Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, mae hynny’n golygu bod perchnogion mewn perygl o wynebu premiwm hyd at 300%.
Yn y Senedd yr wythnos hon, mae Mark Isherwood wedi holi’r Prif Weinidog am y mater, gan ofyn sut mae’r Llywodraeth yn mesur effaith gymdeithasol-economaidd eu polisïau yn y gogledd.
‘Dim datganiadau yn deillio o ffeithiau’
Cyfeiriodd Mark Isherwood at e-bost gan etholwr oedd yn dweud bod “yr un hen beth” yn cael ei ddweud gan Lywodraeth Cymru.
“Dydy’r un o’u datganiadau nhw’n deillio o ffeithiau,” meddai.
“Mae pob un wedi cael ei freuddwydio er mwyn cefnogi’r rhethreg.”
Dywed fod y dystiolaeth yn dangos y byddai llai na 25% o fusnesau hunanarlwyo yn bwrw’r trothwy eleni, a’u bod nhw’n wynebu morgeisi uwch ac argyfwng costau byw, er bod “70% yn dweud eu bod nhw’n gwneud gostyngiad er mwyn ceisio’i wireddu”.
Yn ôl un e-bost, meddai, mae un perchennog busnes bach yn Sir Ddinbych wedi penderfynu “derbyn colledion, achub yr hyn sy’n weddill o’n hiechyd meddwl a chau”.
Yn ôl un arall, mae darparwyr morgeisi’n dweud nad ydyn nhw am gynnig cymorth, “fyddai’n effeithio’n ddifrifol ar allu pobol i werthu eu heiddo”.
Dywed Mark Isherwood fod y rhain yn “ddwy enghraifft ymhlith nifer” mae e wedi’u derbyn yn ddiweddar.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Yn ôl Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, “mae polisi Llywodraeth Cymru yno am reswm”.
“Mae e yno i wahaniaethu go iawn rhwng llety gwyliau sy’n cael eu trefnu ar sail fasnachol, a’r rheiny sy’n cwympo o dan drothwy masnachol,” meddai.
“Mae nifer y diwrnodau mae’n rhaid i lety fod ar gael i’w roi ar rent, a nifer y diwrnodau mae angen iddo gael ei rentu, yno i wahaniaethu yn y modd yma.
“Os ydych chi’n fusnes, yna mae’n rhesymol eich bod chi’n rhoi eich eiddo ar rent am nifer y diwrnodau sydd eu hangen arnom bellach yng Nghymru.
“Os nad ydych chi’n gwneud hynny, dydy hynny ddim yn golygu na allwch chi barhau i roi eich eiddo ar rant, ond yn syml mae’n golygu nad ydych chi’n elwa ar y rhyddhad cyfraddau busnes fyddai ar gael i chi fel arall; yn syml iawn, rydych chi’n talu treth y cyngor fel pawb arall, ac yn rhoi eich eiddo ar rent am lai o ddiwrnodau.
“Does dim byd annheg am hynny.
“Yr hyn yw e yw teg i bob trethdalwr arall.”
Ymateb Mark Isherwood
Yn ôl Mark Isherwood, wrth ymateb i sylwadau Mark Drakeford, mae Llywodraeth Cymru’n “condemnio niferoedd mawr o fusnesau llety gwyliau Cymreig i orfod talu’r premiymau treth gyngor uwch yma, gan yrru nifer allan o fusnes o ganlyniad, ac felly’n tanseilio ein heconomi twristiaeth wledig ymhellach”.
“Mae’r Prif Weinidog a’i Lywodraeth yn uniongyrchol gyfrifol am ladd y busnesau dilys hyn,” meddai.
Y sefyllfa yng Nghonwy
Yn y cyfamser, mae gofyn i gynghorwyr yng Nghonwy bennu lefel y premiwm ar ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor ar gyfer 2024-25 dros yr wythnosau nesaf.
Mae cynghorwyr wedi bod yn ystyried goblygiadau, peryglon a chanlyniadau amrywio’r premiwm.
Cafodd ymgynghoriad ei gynnal rhwng Mehefin a Gorffennaf eleni, ac fe ddenodd e 373 o ymatebion.
Bellach, mae gofyn i gynghorwyr benderfynu a ydyn nhw am dderbyn argymhellion y Gweithgor Tai Fforddiadwy, sef:
- Codi Premiwm Treth y Cyngor o 100% ar gyfer ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor o fis Ebrill 2024
- Argymell lefel fynegol o bremiwm o 200% ar y ddau gategori o 1 Ebrill 2025 ymlaen, gan gyflwyno premiwm uwch o 300% ar gyfer eiddo gwag hirdymor sydd wedi bod yn wag am bum mlynedd neu fwy, yn ddibynnol ar adolygiad yn ystod 2024/2025.
Mae’r adroddiadau sy’n mynd i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyllid ac Adnoddau, y Cabinet ac yna’r Cyngor Llawn, yn nodi trafodaethau’r gweithgor wrth ystyried effaith y Premiymau.
Mae’r Premiwm yn offer ar gyfer awdurdodau lleol, sydd wedi’i ddylunio i annog perchnogion i ddefnyddio eiddo gwag i gefnogi’r cynnydd mewn tai fforddiadwy ar gyfer eu prynu neu eu gosod, ac i wella cynaliadwyedd cymunedau lleol.
Mae ystod o fesurau ar gael i helpu i gefnogi unrhyw un sydd ag eiddo gwag i’w ddefnyddio unwaith eto.
Bydd adroddiad yn mynd i’r Cabinet yr wythnos nesaf (Hydref 10) cyn penderfyniad terfynol gan y Cyngor ar Hydref 19.