Mae ffermwyr yn bryderus eu bod nhw’n colli incwm yn sgil newidiadau i raglen grantiau, yn ôl undeb amaethyddol NFU Cymru.
Bydd rhaglen Glastir Llywodraeth Cymru, sydd wedi bod mewn grym ers 2012 ac sy’n rhoi arian i ffermwyr sy’n trin y tir mewn ffordd gynaliadwy, yn dod i ben ym mis Rhagfyr.
Fe fydd y cynllun cael ei ddisodli gan raglen dros dro yn 2024, ond mae ffermwyr yn poeni na fydd hi’n gallu darparu’r un lefel o incwm iddyn nhw.
Yn ôl NFU Cymru, maen nhw’n siomedig fod nifer o’u hofnau ynghylch y rhaglen newydd yn rhai dilys.
Agorodd y ceisiadau ar gyfer y rhaglen yr wythnos ddiwethaf, ac yn ôl llywydd NFU Cymru, mae nifer o ffermwyr wedi cysylltu â nhw dros y dyddiau diwethaf yn mynegi pryder bod eu hincwm am ostwng.
‘70% o ostyngiad mewn cyllid’
Mae’r undeb wedi bod yn lobïo Llywodraeth Cymru am ddyfodol cefnogaeth amaethyddol-amgylcheddol ers tro, gan sôn am bwysigrwydd cytundebau Glastir i ffermwyr, yn ogystal ag i gynefinoedd, bioamrywiaeth a’r amgylchedd.
“Mae nifer uchel o’r ffermwyr sy’n mynegi pryderon wedi ymrwymo i anaethyddiaeth-amgylcheddol wedi’i gefnogi gan y llywodraeth ar eu ffermydd am 30 mlynedd,” meddai Aled Jones, Llywydd NFU Cymru.
“Yn ôl nifer o ffermwyr, byddan nhw’n wynebu 70% a mwy o ostyngiad yn eu cyllid tuag at gefnogaeth amaethyddol-amgylcheddol gyda’r rhaglen newydd.
“Yn ein llythyr at y Gweinidog ym mis Awst, ac mewn trafodaethau â’r Gweinidogion a’i swyddogion yn y Sioe Frenhinol ac ar ôl hynny, fe wnaethon ni amlygu ein pryderon am y diffyg ymgynghori ac asesiad effaith cynhwysol er mwyn deall yr effaith ar ffermydd cyn gwneud y penderfyniad i ddod â holl gytundebau Glastir i ben a chyflwyno Cynllun Cynefin Cymru.
“Fe wnaethon ni hefyd godi pryderon am ba mor ymarferol fyddai dylunio, profi a gweithredu rhaglen gwbl newydd mewn cyn lleied o amser.
“Dw i’n cael dim pleser wrth weld bod y pryderon wnaethon ni eu codi’n wir wrth i’r cyfnod ymgeisio agor ar gyfer Cynllun Cynefin Cymru. Ffermwyr, cymunedau gwledig a gwaith amaethyddol-amgylcheddol ar ffermydd ledled Cymru sydd ar eu colled.
“Byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i i adolygu’r rhaglen ar frys a chydnabod y materion economaidd a thechnegol sy’n peri pryder i ffermwyr sy’n awyddus i gynnal a gwella’r amgylchedd amaethyddol ledled Cymru.”
‘Math arall o gymorth’
Wrth ymateb i bryderon blaenorol gan NFU Cymru, dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y cynllun yn anelu at gynnal cynefinoedd sy’n cael eu rheoli ledled y wlad.
“Gan y bydd contractau Glastir yn dod i ben ym mis Rhagfyr 2023, byddwn yn cynnig math arall o gymorth i bob ffermwr cymwys, gan gynnwys ffermwyr Glastir Uwch, Glastir Tir Comin a Glastir Organig,” meddai.
“Bydd ein cynllun amaeth-amgylcheddol interim yn anelu at gynnal a chynyddu’r arwynebedd o dir cynefin a reolir ar draws Cymru.”