Mae pencampwriaeth rygbi er cof am chwaraewr rygbi ifanc wedi codi £7,000 i fynd i’r afael â chyflyrau’r galon.

Cafodd Pencampwriaeth Rygbi Cyffwrdd er Cof am Decky ei sefydlu i gofio am Richard Thomas, cyn-chwaraewr Casllwchwr oedd yn cael ei adnabod fel Decky.

Bu farw pan oedd yn 29 oed o gardiomyopathi, clefyd sy’n effeithio ar gyhyr y galon, ym mis Mehefin 2017.

Penderfynodd teulu a ffrindiau Richard Thomas sefydlu’r bencampwriaeth yn fuan ar ôl ei farwolaeth, i godi ymwybyddiaeth am y cyflwr, ac mae’r arian yn mynd tuag at Wasanaeth Cyflyrau Cardiaidd Etifeddol (ICC) Ysbyty Treforys yn Abertawe.

Ers dechrau’r bencampwriaeth flynyddol chwe blynedd yn ôl, mae’r ymgyrch wedi codi bron i £40,000.

Richard ‘Decky’ Thomas

‘Mwy a mwy bob blwyddyn’

Y Cynghorydd Andrew Stevens, ffrind agos i Richard Thomas, sydd wedi bod yn gyfrifol am drefnu’r bencampwriaeth yng Nghlwb Rygbi Casllwchwr.

“Dyma oedd ein chweched bencampwriaeth hyd yn hyn, ac roedd yn llwyddiant ysgubol unwaith eto,” meddai.

“Roedd y diwrnod ei hun yn hollol wych. Roedd y tywydd braidd yn gymylog ond roedd hwnnw’n dywydd rygbi gwell, a dweud y gwir.

“Ar y diwrnod, fe wnaethon ni godi mwy na £7,200 – £450 yn fwy na’n cyfanswm uchaf erioed.

“Roedden ni’n gobeithio y byddai’n mynd â ni dros y cyfanswm o £35,000 ac rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi pasio £38,000.

“Mae’n dangos ei fod yn mynd yn fwy ac yn fwy bob blwyddyn.”

Cafodd yr ymgyrch gefnogaeth gan Leigh Halfpenny, chwaraewr Cymru, eto eleni.

“Mae’n fachgen lleol o Gorseinon, ac mae’r bencampwriaeth yn cael ei chefnogi’n bennaf gan yr ardal leol gyda thimau o Gorseinon, Casllwchwr, Tre-gŵyr, Treforys a Fall Bay,” meddai Andrew Stevens.

Yn y llun uchod: Jason Thomas; Dr Carey Edwards; y Cynghorydd Andrew Stevens; Hayley Brown, nyrs Cyflyrau Cardiaidd a Etifeddwyd (ICC); Louise Norgrove; Suzanne Richards, nyrs yr ICC; a Katy Phillips, nain (yn eistedd) Rosamond Thomas; a Tiffany Thomas, chwaer Richard Thomas

‘Mor ddiolchgar’

Mae Jason Thomas, brawd Richard, wedi diolch i Wasanaeth Cyflyrau Cardiaidd Etifeddol Treforys, ac i Andrew Stevens am ei waith trefnu hefyd.

“Mae’r gwasanaeth Cyflyrau Cardiaidd Etifeddol yn gwneud gwaith anhygoel ond mae unrhyw beth fedrwn ni wneud i helpu eu gwasanaeth yn fonws mawr yn tŷ ni,” meddai.

“Bob blwyddyn, mae diwrnod y bencampwriaeth yn mynd yn wych ac mae’r arian sy’n cael ei godi’n mynd tu hwnt i’n disgwyliadau.

“Rydyn ni mor ddiolchgar i Andrew am ei waith yn sicrhau bod y bencampwriaeth yn llwyddiannus, mae’n gwella bob blwyddyn.

“Mae’r coffa mae’n greu am fy mrawd yn agos iawn i’n calonnau.

“Dw i ddim yn meddwl ei fod yn rhywbeth wnawn ei anghofio.”