Mae cyn-chwaraewr rygbi proffesiynol o Gymru sydd wedi cael diagnosis o ddementia cynnar wedi beicio o Lundain i Lyon, er mwyn codi ymwybyddiaeth o drawma i’r pen mewn campau cyswllt.

Roedd Alix Popham yn 40 oed pan gafodd e ddiagnosis o ddementia cynnar yn 2020, a hynny o ganlyniad i enseffalopathi trawmatig cronig (chronic traumatic encephalopathy) tebygol, sef cyflwr sy’n effeithio ar yr ymennydd – a hynny ar ôl dioddef anafiadau i’w ben wrth chwarae’r gêm.

Bu’n rhaid i’r cyn-wythwr enillodd 33 o gapiau dros Gymru ymddeol yn gynnar ô’r gamp oherwydd anaf i’w ysgwydd yn 2011.

Gadawodd e Lundain am 1yp ar Fedi 19, cyn treulio pum niwrnod yn seiclo 800km i Lyon mewn da bryd ar gyfer y gêm rhwng Cymru ac Awstralia yng Nghwpan y Byd.

Ynghyd â 45 o chwaraewyr a chefnogwyr eraill, fe gwblhaodd e ran Ffrengig y daith gyda Geraint Thomas, y seiclwr o Gymru enillodd y Tour de France 2018.

‘Atgofion i bara oes’

Disgrifiodd Alix Popham y daith fel profiad anhygoel, ac mae’n dweud bod eu nod o godi ymwybyddiaeth o drawma pen mewn chwaraeon cyswllt wedi’i hen gyflawni.

“Roedd y daith yn anodd ar adegau,” meddai.

“Roedd y daith fferi yn arw iawn, felly chafodd neb gysgu, felly fe wnaethon ni 300km heb gwsg o gwbl.

“Yna fe darodd y gwyntoedd ni, yna glaw lle nad oeddech chi’n gallu gweld y ffordd; mewn rhannau roedd fel afon, ond fe wnaethon ni barhau a dod drwyddi.

“Un diwrnod, cawson ni 35 pynjar rhwng y grŵp – cafodd un person saith mewn awr, oedd yn waith caled.

“Pan gyrhaeddon ni Lyon, roedden ni mewn confoi mewn parau tu ôl i’r gerddoriaeth a’r cerbydau cymorth, yn stopio tu allan i fwytai a thafarndai yn llawn cefnogwyr Cymru yn ein calonogi, ac fe gawson ni dderbyniad anhygoel i bentref y cefnogwyr yn Lyon.

“Roedd fel gwahanu’r Môr Coch, ac fe wnaethon ni seiclo i mewn i hyn, oedd yn arbennig iawn.

“Cyn i mi adael, dywedais fy mod i’n nabod deg o’r 45 o bobol, ond erbyn diwedd y daith y bydden ni i gyd yn ffrindiau gorau, a dyna oedd y gwir.

“Roedd yn grŵp oedd yn gweithio’n galed iawn dros ei gilydd, ac fe gyrhaeddodd gyda llawer o atgofion i bara am oes.”

Roedd Geraint Thomas yn seiclo yn y Vuelta a España cyn iddo ymuno ag Alix Popham a’r tîm.

“Mae’r syniad o ymuno â’r botiau yma am rai dyddiau a gwylio Cymru yn Lyon yn fy nghael drwy’r Vuelta,” meddai.

“I wneud pethau’n well, fe gurodd Cymru Awstralia 40-6 yn y gêm yn Stadiwm OL, y diwrnod pan gyrhaeddon nhw.”