Mae Criced Cymru a Chlwb Criced Morgannwg wedi cael eu hachredu am eu gwaith ym maes amrywiaeth.
Daw hyn sawl blwyddyn ar ôl i Forgannwg gael eu cyhuddo gan ddau gyn-chwaraewr o hiliaeth sefydliadol.
Fe wnaeth y ddau sefydliad dderbyn y statws arbennig mewn cinio yng Nghaerdydd neithiwr (nos Lun, Hydref 3), a hynny er mwyn cydnabod eu gwaith ym maes ymwybyddiaeth ddiwylliannol a sicrhau cydraddoldeb yn unol â chynllun gweithredu Llywodraeth Cymru sy’n anelu at fod yn wrth-hiliol.
Elusen sy’n ymrwymo ac yn anelu at gydraddoldeb i bawb yw Diverse Cymru, ac maen nhw’n cefnogi pobol sy’n wynebu gwahaniaethu ar sail oedran, anabledd, rhyw a rhywedd, statws priodasol, beichiogrwydd, hil a chrefydd.
Eu gweledigaeth yw helpu i greu cenedl heb ragfarn na gwahaniaethu lle mae pawb yn gyfartal.
‘Ymdrech gan y clwb cyfan’
Mae Mark Frost yn gweithio fel Rheolwr Cymuned a Datblygu gyda chorff Criced Cymru a Chlwb Criced Morgannwg.
“Dw i mor falch ein bod ni wedi derbyn y safon yma gan Diverse Cymru,” meddai.
“Mae hwn wedi bod yn ymdrech gan y clwb cyfan dros gyfnod hir o amser.
“Mae defnyddio cefnogaeth Diverse Cymru a gwaith blaenorol gyda Buddsoddwyr mewn Amrywiaeth yn golygu ein bod ni wedi camu i fyny go iawn fel bod profiad ymwelwyr yng Ngerddi Sophia cystal ag y gall fod i bawb, waeth beth yw eu cefndir.
“Fe wnaeth Clwb Criced Morgannwg anelu i wneud tri pheth clir iawn gyda’n gwaith ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI), sef:
- sicrhau bod ein staff wedi’u hyfforddi’n dda ac yn fwy ymwybodol yn ddiwylliannol er mwyn bod yn sensitif tuag at wahanol anghenion ein cwsmeriaid
- sicrhau amrywiaeth yn y gweithlu hyfforddi talent fel bod cricedwyr ifainc a rhieni o gefndiroedd ethnig amrywiol yn teimlo’n gyfforddus ac yn hyderus
- sicrhau bod UNRHYW UN sy’n ymweld â’r stadiwm yn teimlo’n gartrefol a bod croeso iddyn nhw.
“Er mwyn cefnogi’r cyfan oll, fe wnaethon ni drin gwrando ar nifer o grwpiau ffocws yn ddifrifol iawn, a byddwn ni’n parhau i wneud hyn wrth i ni geisio sicrhau mai criced yw’r gamp tîm fwyaf cynhwysol yn y Deyrnas Unedig.”