Mae Warren Gatland, prif hyfforddwr rygbi Cymru, wedi cyhoeddi’r tîm fydd yn herio Georgia yng Nghwpan y Byd yn Naoned (Nantes) ddydd Sadwrn (Hydref 7, 2yp).
Mae angen un pwynt ar Gymru i orffen ar frig eu grŵp.
Mae’r bachwr Dewi Lake wedi’i enwi’n gapten ac yn fachwr yn lle Ryan Elias, gyda Gareth Thomas a Tomas Francis y naill ochr a’r llall iddo yn y rheng flaen.
Yn yr ail reng mae Dafydd Jenkins a Will Rowlands, gyda Taulupe Faletau yn wythwr yn y rheng ôl yn ei bedwaredd gêm, ochr yn ochr â’r blaenasgellwyr Aaron Wainwright a Tommy Reffell.
Does dim lle i’r cyd-gapten arall, Jac Morgan.
Yr haneri fydd y mewnwr Tomos Williams a’r maswr Gareth Anscombe, oedd wedi sgorio 23 o bwyntiau yn y gêm ddiwethaf – y nifer fwyaf o bwyntiau gan chwaraewr o Gymru mewn un gêm yng Nghwpan y Byd.
Mae Dan Biggar yn parhau i wella o anaf.
Bydd Nick Tompkins a George North yn y canol.
Louis Rees-Zammit, sydd wedi chwarae pedair gêm, a Rio Dyer fydd ar yr esgyll, gyda Liam Williams yn gefnwr.
Yr eilyddion fydd y blaenwyr Elliot Dee, Nicky Smith, Henry Thomas, Christ Tshiunza, Taine Basham, a’r olwyr Gareth Davies, Sam Costelow a Mason Grady.
Tîm Cymru: 15. L. Williams, 14. L. Rees-Zammit, 13. G. North, 12. N. Tompkins, 11. R. Dyer, 10. G. Anscombe, 9. T. Williams; 1. G Thomas, 2. D Lake (capten), 3. T Francis, 4. W Rowlands, 5. D Jenkins, 6. A Wainwright, 7. T Reffell, 8. T Faletau
Eilyddion: 16. E Dee, 17. N Smith, 18. H Thomas, 19. C. Tshiunza, 20. T Basham, 21. G Davies, 22. S Costelow, 23. M Grady