Mae oriawr brin wedi cael ei rhoi ar raffl er mwyn trio achub clwb pêl-droed Llandudno.

Cafodd dyluniad yr oriawr gan Clogau ei chomisiynu gan Gymdeithas Pêl-droed Cymru fel anrheg i’r tîm dynion cyn iddyn nhw fynd i Gwpan y Byd yn Qatar y llynedd.

Dydy’r dyluniad erioed wedi cael ei werthu i’r cyhoedd, a dim ond 100 oriawr efo’r dyluniad hwnnw gafodd eu creu.

Gall cefnogwyr pêl-droed brynu tocyn raffl am £10 ar wefan Clwb Pêl-droed Llandudno, a bydd y raffl yn cael ei dynnu tua’r Nadolig.

“Dros y flwyddyn ddiwethaf mae’r clwb wedi ymladd yn barhaus i oroesi, ond diolch i’r cyfraniad hael hwn gan Clogau fedrwn ni barhau i gymryd camau cadarnhaol yn ein blaenau,” meddai Hayley Jenkins, Cyfarwyddwr Masnachol y clwb.

“Rydyn ni’n hyderus y bydd cyfraniadau sy’n cael eu rhoi drwy’r raffl, ynghyd â’r ymdrechion codi arian anhygoel gan ein cefnogwyr, yn ein helpu i sicrhau dyfodol y clwb ar gyfer 2024.”

‘Helpu i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf’

Ychwanegodd Ben Roberts, Rheolwr Gyfarwyddwr Clogau, eu bod nhw’n falch iawn o gefnogi’r tîm cenedlaethol y llynedd.

“Dyna pam ein bod ni mor drist i weld rhan hanfodol o’r gymuned Gymraeg leol fel Clwb Pêl-droed Llandudno yn cael trafferth parhau i weithredu,” meddai.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld yr oriawr brin yn cael ei rafflo, a gobeithio y bydd hynny’n gymorth i godi arian er mwyn helpu i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o sêr pêl-droed Cymru.”