Bydd dyn o Ystradgynlais yn ceisio ennill Record Byd am redeg hanner marathon mewn dillad ffensio fory (Hydref 1).

Nod Aled Hopkins, sy’n 22 oed, ydy cael ei enwi fel y person cyflymaf i redeg 13.1 milltir mewn gwisg ffensio lawn.

Bydd yn gwneud yr ymgais yn Nghaerdydd fory, ac mae Guiness World Records wedi dweud wrtho bod angen iddo groesi’r llinell derfyn mewn llai na dwy awr er mwyn cael y teitl.

Mae Aled, sy’n gweithio fel ymgynghorydd TG ym Mhen-y-bont ar Ogwr, wedi cwblhau Hanner Marathon Caerdydd yn y gorffennol mewn awr a 24 munud.

Yr unig ran o’r wisg fydd Aled ddim yn ei wisgo wrth redeg fydd cleddyf.

“Mae’r masg reit drwm ac mae’n rhaid i fi weithio hwnnw drwy’r ras. Fedra i ddim ei dynnu,” meddai.

“Dw i’n rhedeg i Mind Cymru.

“Dw i’n trio gwneud dau ddigwyddiad elusennol y flwyddyn ac mae hon yn elusen sy’n agos at fy nghalon.

“Maen nhw’n gwneud gwaith anhygoel ac yn helpu gymaint o bobol.”

‘Helpu i ganolbwyntio’

Ar ei dudalen JustGiving, esbonia Aled ei fod yn credu bod iechyd meddwl ac iechyd corfforol yn mynd law yn llaw.

“Mae ffensio wedi helpu fi i ganolbwyntio a bod yn ddisgybledig – sgiliau sy’n gallu bod yn amhrisiadwy mewn bywyd.

“Fodd bynnag, dw i hefyd yn deall nad ydy pawb yn cael yr un cyfleoedd i gael mynediad at gefnogaeth iechyd meddwl.”

Y llynedd, fe wnaeth James Linney o Benarth lwyddo i gael Record Byd wrth gwblhau Hanner Marathon Caerdydd tra’n rheoli pêl tennis y llynedd.