Mae gêm ola’r tymor criced rhwng Morgannwg a Swydd Derby yng Nghaerdydd wedi gorffen yn gyfartal.

Seren y gêm oedd Luis Reece, batiwr yr ymwelwyr, oedd wedi sgorio 139 yn y batiad cyntaf a 119 heb fod allan yn yr ail fatiad.

Mae Reece bellach wedi torri’r record am fod y chwaraewr cyntaf yn hanes criced sirol i sgorio pedwar canred yn erbyn yr un gwrthwynebwyr yn ystod yr un tymor, ac mae e wedi cael saith sgôr yn olynol dros 50.

Mae e bellach wedi sgorio 659 o rediadau yn erbyn Morgannwg eleni, a 590 yn y Bencampwriaeth.

Dyma’r tro cyntaf hefyd iddo fe sgorio cyfanswm o fwy na 1,000 o rediadau mewn tymor.

Manylion y gêm

Gosododd y Saeson y seiliau yn gynnar yn yr ornest, ar ôl i Forgannwg alw’n gywir a dewis bowlio ar lain ddylai fod wedi cynnig mwy o gefnogaeth iddyn nhw.

Sgoriodd yr ymwelwyr 450 am wyth cyn cau eu batiad cyntaf, gyda Brooke Guest yn taro 96 a Mitch Wagstaff yn sgorio 78.

Cyrhaeddodd Morgannwg 301 am bump yn eu batiad cyntaf – gwahaniaeth o 149 ar ôl osgoi canlyn ymlaen – cyn penderfynu cau eu batiad nhw hefyd mewn ymgais i gwrso buddugoliaeth.

Tarodd Colin Ingram 82, Zain ul-Hassan 65 a Billy Root 53, wrth i Alex Thomson gipio pedair wiced i’r ymwelwyr.

Caeodd Swydd Derby eu hail fatiad ar 234 am ddwy, gan osod nod annhebygol o 384 i ennill ar y diwrnod olaf.

Roedd y sir Gymreig yn 135 am chwech pan ddaeth yr ornest i ben, ar ôl i fowlwyr Swydd Derby eu rhoi nhw dan bwysau.

Wrth i Forgannwg ffarwelio â’r capten David Lloyd, sy’n ymuno’n barhaol â Swydd Derby, a’r prif hyfforddwr Matthew Maynard, mae’r Saeson hefyd yn ffarwelio â’u capten Leus du Plooy, fydd yn ymuno â Middlesex ar gyfer tymor 2024.

Gorffennodd Morgannwg y tymor yn bumed yn ail adran y Bencampwriaeth, gyda Swydd Derby un safle islaw.