Mae Lowri Norkett wedi cyhoeddi ei bod hi’n ymddeol o’r byd rygbi proffesiynol.
Enillodd yr asgellwraig 28 oed bump o gapiau dros Gymru, gan ddilyn yn ôl troed ei diweddar chwaer iau, Elli, fu farw mewn gwrthdrawiad yn 20 oed yn 2017.
Elli oedd y chwaraewraig ieuengaf yng Nghwpan y Byd 2014, ac enillodd hi bedwar o gapiau dros Gymru.
Yn gyn-chwaraewraig pêl-rwyd dros Gymru, mentrodd Lowri Norkett i’r byd rygbi, gan chwarae rygbi’r gynghrair dros Gymru cyn troi ei sylw at rygbi’r undeb.
Roedd ganddi nod o dalu teyrnged i waddol ei chwaer wrth gynrychioli Cymru, a daeth ei chap cyntaf yn erbyn Canada yn Nova Scotia y llynedd.
Mae ei phenderfyniad yn golygu na fydd hi bellach yn chwarae dros Gymru yng nghystadleuaeth WXV, er iddi chwarae yng Nghwpan y Byd a’r Chwe Gwlad yn fwyaf diweddar.
‘Talu teyrnged i fy chwaer fach’
“Fy ysgogiad i chwarae rygbi dros Gymru erioed oedd talu teyrnged i fy chwaer fach, Elli, a gadael gwaddol er cof amdani yn y crys coch enwog,” meddai Lowri Norkett.
“Alla i ddim gwadu bod hwn wedi bod yn benderfyniad anodd iawn i fi, a dw i’n gadael cymaint o ffrindiau ar ôl yn y garfan.
“Dw i wedi gwneud ffrindiau oes yn y garfan hon, ac mae gyda ni atgofion fydd neb arall yn gallu eu deall na’u rhannu.
“Mae uchafbwyntiau ac isafbwyntiau wedi bod, ond yr atgof fydd yn aros yw’r bobol yma oedd wedi rhannu fy nhaith gyda fi ac wedi fy helpu i anrhydeddu Elli.
“Dw i’n teimlo fy mod i wedi gwneud hynny.”
Dywed ei bod hi wedi gwneud y penderfyniad yn gynt na’r disgwyl, a hynny ar ôl priodi a chael cyfle gwaith newydd, fydd yn “her newydd, gyffrous” ac yn cynnig “sicrwydd ariannol sy’n anodd ei anwybyddu”.
Mae hi wedi diolch i’w theulu, ffrindiau, cyd-chwaraewyr, hyfforddwyr a staff eraill am ei “helpu i anrhydeddu Elli”, gan ddymuno’n dda i’r garfan yn y WXV yn Seland Newydd.
‘Ysbrydoledig ac unigryw’
Un sydd wedi talu teyrnged i Lowri Norkett yw Ioan Cunningham, prif hyfforddwr tîm menywod Cymru.
“Mae taith Lowri wedi bod yn ysbrydoledig ac unigryw, a chyflawnodd hi bopeth ddywedodd hi y byddai hi’n ei gyflawni,” meddai.
“Faint ohonon ni sy’n cyflawni hynny, a faint ohonon ni all gerdded i ffwrdd gan ddweud ein bod ni wedi gwneud yr hyn roedden ni wedi bwriadu ei wneud?
“Ei stori hi yw’r un fwyaf ysbrydoledig o blith unrhyw chwaraewyr ym myd y campau, heb sôn am chwaraewyr rygbi,” meddai, gan ychwanegu ei bod hi wedi talu teyrnged i’w chwaer drwy “ddechrau chwarae ei champ hi, chwarae yn ei safle hi a chynrychioli ei gwlad”.
“Roedd hi’n fraint cael rhoi cap i Lowri allan yng Nghanada, ac roedd hi’n llawn haeddu gwisgo’r crys rhif 14 y diwrnod hwnnw.
“Rydym yn dymuno’r gorau iddi.”