Mae cefnogwyr Clwb Pêl-droed Casnewydd wedi cymeradwyo cais Huw Jenkins i brynu’r clwb.

Bydd cyn-gadeirydd Abertawe’n dod yn brif randdeiliad, ar ôl i 455 allan o 464 o bobol bleidleisiodd ei gefnogi.

Yn dilyn y bleidlais, bydd e nawr yn cydweithio â’r cyfarwyddwyr i gael trosglwyddo’r cyfrannau, ac â’r Gynghrair Bêl-droed ar eu gweithdrefnau ar gyfer perchnogion newydd.

Yn dilyn hynny, bydd Jenkins a’r clwb yn dechrau paratoi ar gyfer ei berchnogaeth.

Roedd un ymgeisydd arall i brynu’r clwb, sef consortiwm dan arweinyddiaeth yr Americanwr Dan Donoghue a Jon Pratt.

Huw Jenkins

Enwi cyn-gadeirydd Abertawe’n ffefryn i brynu Casnewydd

Mae disgwyl i Huw Jenkins ddod yn brif randdeiliad yr Alltudion ar ôl i’r clwb gymeradwyo’i gais