Mae disgwyl i Joe Allen fod ar y cyrion tan fis Ionawr.

Daw hyn wrth i chwaraewr canol cae Abertawe wynebu llawdriniaeth ar ei goes.

Fe wnaeth e anafu cesail y forddwyd wrth gynhesu ar gyfer y gêm ddarbi fawr gollodd yr Elyrch o 2-0 yn erbyn Caerdydd yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

“Mae Allen wedi cael llawdriniaeth ar gesail y forddwyd, felly bydd e allan am amser tebyg [i Nathan Wood, sydd wedi anafu ei ffêr],” meddai’r rheolwr Michael Duff.

Bydd Josh Ginnelly allan am weddill y tymor hefyd, ar ôl anafu gwäellen ei ffêr.

“Maen nhw’n dri chwaraewr mawr i ni, a’r tri ohonyn nhw ag anafiadau hirdymor,” meddai Duff wedyn.

“Byddwn ni’n eu cefnogi nhw, fel y byddwn ni’n cefnogi’r holl chwaraewyr.

“Mae’n destun siom, ond mae cyfle i chwaraewyr eraill nawr.”